
Caligraffydd Persiaidd sy’n gweithio gyda llawysgrifau traddodiadol gan gynnwys Nastaliq, Shekasteh Nastaliq, a Thuluth yw Neda Mohammad. Mae ei harfer wedi ei gwreiddio mewn rhythm, disgyblaeth, a’r hyn y mae symudiad llinell yn ei fynegi, lle mae pob trawiad yn cydbwyso strwythur ac emosiwn.
“Ar y cyd â chaligraffi, dwi’n ymarfer goleuo Persiaidd (Tazhib), iaith weledol traddodiadol sy’n ymestyn y tu hwnt i addurno llawysgrifau, tuag at bensaernïaeth, gwrthrychau sanctaidd, llyfrau barddoniaeth, a chyfansoddiadau artistig annibynnol. Yn hanesyddol, cafodd Tazhib ei ddatblygu fel system cywrain o addurno gan gynnwys aur, geometreg, haniaeth flodeuog, a nodweddion haenog symbolaidd.
Nid nodweddion addurniadol yn unig mo’r rhain; maen nhw’n cynnal ystyron diwylliannol ac athronyddol dwfn, a rhai ysbrydol o bryd i’w gilydd, sy’n aml yn adlewyrchu syniadau’n ymwneud ag undod, anfeidroldeb, natur a chytgord mewnol. Yn fy ngwaith, dwi’n ailddehongli’r ffurfiau hyn drwy rhythmau naturiol megis blodau a symudiad organig, gan gyfieithu strwythurau symbolaidd yn gyfansoddiadau cyfoes.
Er ei fod wedi ei wreiddio mewn traddodiad, dwi’n gosod Tazhib fel iaith gyfoes annibynnol, gan archwilio’r ffordd y mae’r system weledol symbolaidd hon yn gallu symud tu hwnt i gyd-destunau hanesyddol, gan ymwneud â’n disgwrs celfyddydol cyfoes.”
Mae gan Neda dros 20 mlynedd o brofiad ac mae wedi arddangos ei gwaith yng Nghymru ac Iran. Roedd hi’n athrawes gelf yn Iran ac mae wedi cynnal gweithdai trwy gydol ei gyrfa. Mae ei harddangosfeydd cyfoes yn cynnwys arddangosfa Grŵp gyda’r GIG yng Nghaerdydd, arddangosfa grŵp gyda madeinroath yng Nghaerdydd, ac Arddangosfa Grŵp Illumination yn Iran.