Ffotograffydd ac artist yw Jon Pountney sy’n byw yn Nhrefforest. Atgofion, hiraeth, hanes cymdeithasol a chymuned sy’n ysbrydoli ei waith, ac mae’n defnyddio ffilm a ffotograffiaeth ddigidol yn bennaf. Mae’n angerddol dros weithio gyda chymunedau a phobl, er mwyn dod a straeon yn fyw a’u rhannu gyda’r byd.
Mae fy ngwaith yn ganlyniad o’r blynyddoedd o weld ac o feddwl am ffotograffiaeth a fy lle ynddo fel artist. Mae fy esthetig fel ffotograffydd yn syml iawn a rhwydd: ceisio dal lleoedd ac eiliadau diddorol a’u rhannu gydag eraill. Dw i’n creu celf i gyfathrebu fy synnwyr o ryfeddod, ac mae’r themâu yn fy ngwaith yn cael eu dylanwadu gan fy niddordeb mewn pobl, lleoedd a hanes.
Llun Jon Pountney Capel Rhiw, Blaenau Ffestiniog (2023) yn yr arddangosfa Delfryd a Diwydiant yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (Mai – Medi 2024), a oedd yn rhan o broject Trysorau Cenedlaethol i ddathlu deucanmlwyddiant yr Oriel Genedlaethol. Roedd yr arddangosfa’n cynnwys The Stonemason’s Yard gan Canaletto sydd ar fenthyg o’r Oriel Genedlaethol, yn ogystal â bron i 90 o ddarluniau o dirwedd Cymru, yr oedd bron i 50 ohonynt yn weithiau cyfoes.