Jeffery Steele

b. 1931, Cardiff

Ganed Jeffrey Steele (1931-2021) yng Nghaerdydd i deulu dosbarth gweithiol yn ardal Y Sblot. Ym 1948 aeth i Goleg Celf Caerdydd ond gadawodd ym 1950 wedi anghydfod, a seiclodd i goleg Casnewydd yn lle. Wedi iddo dreulio amser yn Llundain a Pharis, dychwelodd i Gymru ym 1960.

Yn ystod yr 1950au fe weithiodd gydag arddulliau cynrychioliadol. Ym Mharis yn 1959 fe ddaeth ar draws gwaith haniaethwyr geometrig fel Victor Varsarely a Max Bill ac fe fabwysiadodd ymagwedd haniaethol gydol oes. Am wyth mlynedd fe weithiodd yn llwyr mewn du a gwyn ac roedd yn cael ei gysylltu â’r mudiad Op-art.

Roedd yn aelod amlwg o Ysgol Haf Y Barri a threfnodd arddangosfa grŵp Systeemi yn Helsinki, Yn farcsydd, cyflwynodd ddarlithoedd ar agweddau theoretig a gwleidyddol celf, yn ei waith fel pennaeth celf gain Coleg Celf Portsmouth tan 1988.

The artist was in the following exhibition:
Exhibition // Arddangosfa:
REBUILD the POETS


Links :
http://www.jeffreysteele.co.uk/