Katrina Blannin

Lives and works in London

Mae Katrina Blannin yn artist sydd wedi’i lleoli yn Llundain. Mae hi’n beintwraig, gwneuthurwraig print ac artist cyfrwng cymysg. Y mae ei gwaith o hyd yn brosiect parhaus sy’n ystyried sut mae metamorffosis yn gallu cynhyrchu prosesau meddwl newydd.

Mae gen i ddiddordeb yn y ffordd y mae perthnasau artistig gyda Moderniaeth yn gallu cymryd ffurfiau gwahanol a’r sefyllfa baradocsaidd o anachroniaeth a’r cofleidiad o optimistiaeth y gorffennol, a sut ‘dyn ni’n adlewyrchu ar hyn heddiw. Mae’r modd ‘dyn ni’n ymgysylltu ag eiliadau hanesyddol a nodi ymgais esthetig yn broses o ymateb a thrawsnewid.

Graddiodd Katrina Blannin o’r Coleg Celf Brenhinol ym 1997. Mae wedi arddangos ei gwaith yn helaeth ar draws y DU a thramor, mae wedi cyd-gyfarwyddo gofodau wedi’u rhedeg gan artistiaid, mae wedi curadu arddangosfeydd ac wedi ysgrifennu am baentio cyfoes. Yn 2021 cwblhaodd PhD Paentio drwy Ymarfer ym Mhrifysgol Caerwrangon. Mae’n dysgu yn UAL Camberwell; UCA Caergaint ac yn gweithio ar fwrdd golygu a rhaglen fentora Turps Banana. Mae’n cael ei chynrychioli gan Laurent Delaye.

The artist was in the following exhibition:
Exhibition // Arddangosfa:
REBUILD the POETS


Links :
https://katrinablannin.com/