Mae Athena Jones yn artist Gypraidd a aned yng Nghaerdydd. Mae hi’n gweithio’n bennaf gyda darlunio a pheintio. Mae ei hymarferiad yn ymwneud a chasglu, arsylwi a darlunio o fywyd ac yn aml yn ymateb i rywbeth a welwyd neu rywun mae hi wedi cyfarfod.
Mae gen i atynfa at ddelweddaeth o bob math a sut mae’r delweddau yn ennyn ymateb gennym. Dw i’n gweld bod delweddau a straeon yn gallu creu cysylltiadau siawns a thrwy greu gwaith, dw i’n gobeithio bydd naratifau yn dod i’r amlwg ac yn adlewyrchu synnwyr o hanes ac atgof, yn o gystal â gwneud rhywbeth newydd.
Astudiodd Athena celfyddyd gain yn Nottingham (BA 1996) ac yng Nghaerdydd (MFA 2002), yn darlunio a phaentio yn bennaf. Dechreuodd Athena y Rhydypennau Library Portrait yn 2016 yc yn fwy diweddar arddangosodd gyda BEEP 2024, Drawing Paper Show ‘23 & ‘25, Cymru Gyfoes ‘25, Juxtaposed 2025 yng Nghastell Cyfartha, Cardiff MADE, PAM a’r galwadau agored Ty Turner.