
Saernïa Farah Allibhai weithiau celf drwy gyfuno ffilm, gwrthrychau, geiriau,
perfformiadau a defodau. Caiff ei gwaith ei ddylanwadu gan fyfyrio a gweld mewn
ffyrdd croestoriadol – drwy gyfrwng rhywedd, dosbarth, hil, crefydd, gwaddol
trefedigaethol dadleoli cyndeidiol a thrawma hiliol.
I Farah, mae ei phrofiad bywyd unigryw, a’i threftadaeth ddiwylliannol a chrefyddol amrywiol, yn golygu bod golwg croestoriadol yn llywio taith ei bywyd.
Menyw Asiaidd Gujarati yw Farah Allibhai, wedi ei geni yn Uganda, Dwyrain Affrica.
Yn 1972, yn 1 oed, cafodd ei gyrru allan o’r wlad, a gorfu iddi symud i’r DU. Mae’n
parhau i weithio yng Nghymru wedi iddi fyw yng Nghaerdydd am y rhan helaeth o’i
bywyd. Derbyniodd Farah wobr Cymrodoriaeth Weston Jerwood yn 2021 fel
cynorthwyydd curadurol yn Artes Mundi. Roedd hi’n rhan allweddol o’r gwaith o
sefydlu casgleb 1800hrs ac yn ddiweddar bu’n dangos ei gwaith yn Experimentica,
Chapter, Caerdydd.
Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa: Fanatic Dolenni :https://
www.farahallibhai.com/