
Mae gwaith Emii Alrai yn rhychwantu sawl peth – o archwiliadiau materol yn
ymwneud â’r cof, hyd at feirniadaeth o strwythur amgueddfaol y gorllewin, a
chymhlethdod adfeilion.
Gan weithio’n bennaf gyda cherflunio a gosodwaith, mae ei gwaith fel bydoedd
graddfa-fawr sydd wedi eu hadeiladu i gydfynd â chyrff o ymchwil sy’n ymwneud ag
archeoleg a’r amgylcheddau naturiol y mae gwrthrychau’n cael eu hechdynnu oddi
wrthynt. Defnyddia Emii iaith strwythurau arddangosiadau amgueddfeydd (corfforol a
chysyniadol) i feirniadu ffurfiau creiddiol y sefydliadau hyn.
Mae ei harddangosfeydd unigol blaenorol yn cynnwys River of Black Stone (2025), A
Lake as Great as its Bones, Maximillian William Lithics yn Quench Gallery, Margate (2024); A Core of Scar, The Hepworth Wakefield, iniva (2022); a Reverse Defence yn Workplace Foundation yn Newcastle (2022).
Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa: Fanatic Dolenni :https://emiialrai.com/