Sophie Lindsey + Sophie Mak-Schram

Mae Sophie Lindsey + Sophie Mak-Schram yn ddeuawd artistig sy’n ysgrifennu celf, yn ysgrifennu am gelf, ac yn gwneud gwrthrychau testunol. Ers gwanwyn 2024, maent wedi bod yn argraffu After-Fact, darn o ysgrifennu araf, lled-reolaidd, hyperleol sy’n myfyrio ar gelfyddyd sy’n digwydd yng Nghymru.

Dechreuodd After-Fact fel cwestiwn: ble mae beirniadaeth celf ac ysgrifennu celf am Gymru? Fel cysgod neu froc môr rhyfedd o'r arddangosfa neu'r digwyddiad ei hun, nod eu hysgrifennu yw bod yn dyner, yn anffurfiol ac wedi'r ffaith; yn ôl-drafodaeth yn hytrach na rhagolwg.

Yn eu gwaith ehangach gyda'i gilydd, mae Sophie + Sophie yn gofyn cwestiynau fel: SUT YDYCH CHI'N GWYBOD A YW'R GWAITH YN DDA OS YDYCH YN ADNABOD YR ARTISTIAID? A YW’R ARTIST YN PERFFORMIO AR ADEG ARALL? A ALL HYGYRCHEDD FOD YN HWYL (A RHYWIOL)?

Ar gyfer UNITe, mae Sophie + Sophie yn datblygu rhai gwrthrychau, perfformiadau a syniadau, trwy ysgrifennu celf a gwrthrychau testunol. Trwy gydol yr amser yma, maent yn bwriadu sgwrsio ag eraill, darllen rhai llyfrau, blasu rhai byrbrydau yn y Rhath, a gweithio gyda geiriau mewn ffyrdd sy'n onest ac yn hwyliog.

Mae Sophie Lindsey yn gweithio trwy gyfrwng GIFs, perfformiadau, gweithdai, fideo, ac ymyriadau mannau cyhoeddus i greu prosiectau sy'n ceisio blaenoriaethu haelioni, dealltwriaeth a hwyl!

Mae Sophie Mak-Schram yn poeni am y radicaliaeth bosibl yn yr ‘ac' rhwng celf ac addysg. Mae hi'n gweithio gydag eraill, fel dull a ffurf. Mae ei gwaith yn ymestyn dros feysydd addysg drwy brofiad, gwaith cynhwysol, arferion cyfunol, ac ymchwil artistig. Mae hi'n cynnull, yn ysgrifennu, yn darllen, yn gwneud gwrthrychau i ddysgu gyda nhw neu i wrando arnyn nhw, ac yn perfformio.

Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa:
UNITe 2024