
Mae Sin Wai Kin yn dod â ffantasi yn fyw trwy adrodd straeon mewn delwedd symudol, perfformiadau, ysgrifennu, a phrint. Gan dynnu ar brofiadau sy’n bodoli rhwng categorïau deuaidd, mae eu gwaith yn gwireddu bydoedd eraill i ddisgrifio profiadau byw o awydd, adnabyddiaeth ac ymwybyddiaeth.
Derbyniodd yr artist y 24ain Gwobr Gelf Baloise yn Art Basel 2023. Enwebwyd eu ffilm, A Dream of Wholeness in Parts (2021), ar gyfer Gwobr Turner 2022, a chafodd ei chynnwys yn yr arddangosfa deithiol y British Art Show 9, yn ogystal â chael ei dangos yn 65ain Gŵyl Ffilm Llundain y Sefydliad Ffilm Prydeinig. Mae arddangosfeydd unigol diweddar yn cynnwys MUDAM, Lwcsembwrg; Amgueddfa Celf Gyfoes, Zagreb; a Chanolfan Celf Gyfoes Taipei, Taipei.