Artist, ymchwilydd a Gaeilgeoir o Derry yw Ciáran Ó Dochartaigh, sy’n byw ac yn gweithio’n achlysurol gyda salwch cronig o ganlyniad i ôl-drefedigaethu.
Mae ei waith, sy’n defnyddio cyfryngau cymysg, yn edrych ar y cymhlethdodau sy’n gynhenid mewn profiadau ar ôl gwrthdaro, ac ar natur colled bersonol yng nghyd-destun trais gwleidyddol a phrofiadau bywyd. Mae ganddo waith ymchwil ar y gweill i deulu o asynnod, ar ôl gwneud gwaith gyda grŵp o falwod, er mwyn edrych ar berthnasau rhwng rhywogaethau, llafur a charennydd.
Mae Ciarán wedi arddangos yn Drawing room London (2023), Visual Artist Ireland (VAI) (2023), CCA, (Derry-Londonderry, 2023) Project Arts Centre (Dulyn, Iwerddon, 2022) and the The Museum of Contemporary Art (Santiago, Chile, 2018).