
Awdur ac artist yw Kandace Siobhan Walker ac mae’n hanu o gefndir Jamaicaidd-Canadaidd, Saltwater Geechee a Chymreig.
Mae hi’n byw yn Llundain. Mae ei gwaith yn edrych ar y croestoriad rhwng hanes personol a mudiadau a systemau cymdeithasol ehangach. Mae breuddwydion, dadleoli, perthyn, gofal, y gymuned, ysbrydolrwydd a chyfiawnder yn themâu sy’n codi dro ar ôl tro yn ei gwaith.
Mae Kandace wedi arddangos yn Ty Turner (Penarth 2022) and Chapter Arts Centre (Caerdydd 2022)
Mae ei gwaith ysgrifennu wedi ymddangos yn The Poetry Review, Poetry Wales a The Guardian, ac wedi’i ddarlledu ar Channel 4 a BBC Radio 4. Hi yw awdur Kaleido (Bad Betty Press, 2022) a Cowboy (CHEERIO, 2023).