Mae Ebun Sodipo, sy’n byw yn Llundain, yn creu gwaith ar gyfer pobl draws ddu’r dyfodol.
Gan ddefnyddio astudiaethau ffeminyddol du i’w thywys, ynghyd â methodoleg wedi’i seilio ar collage a ffabiwleiddio, mae ei gwaith yn lleoli ac yn cynhyrchu naratifau real a dychmygol ynghylch presenoldeb, ymgorfforiad a mewnoliad yng nghyd-destun menywod traws du, a hynny yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol. Wrth wneud hyn, bydd Sodipo yn llenwi bylchau hanesyddol er mwyn creu momentau o bleser archifol i bobl draws ddu. Mae’r gwaith hwn yn cael ei wneud mewn gofodau niferus: orielau, gwyliau, theatrau, cyfryngau digidol ac mewn print; ac mae’n ymddangos mewn ffurfiau amrywiol fel sain, perfformiadau, testun, gosodiadau, fideo a cherflunwaith.
Mae Ebun wedi arddangos yn Hauser and Wirth (Gwlad yr Haf, 2024) Live Collision Festival (Dulyn 2024), Turner Contemporary (Margate, 2023) FACT (Lerpwl, 2022) and Goldsmiths CCA (Llundain, 2022).