Hyfforddodd Cas Holmes mewn celfyddyd gain ac ar hyn o bryd mae'n gweithio ym maes tecstilau a chyfryngau cymysg. Mae rhan o arfer Holmes yn ymwneud â chydweithrediadau cymunedol i ddatblygu ystod o brosiectau yn seiliedig ar themâu amgylcheddol o’r byd naturiol. Mae hi'n awdur tri llyfr ar gyfer Batsford, gan gynnwys 'The Found Object in Textile Art' a ddefnyddir fel ffynhonnell gyfeirio sylfaenol ym myd addysg. Mae ei phedwerydd llyfr ar gyfer Batsford ‘Textile Landscape: Painting with Cloth in Mixed Media’ yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng tecstilau, peintio a thirwedd. Cedwir gwaith Holmes mewn casgliadau gan gynnwys Amgueddfa Celf a Dylunio yn Efrog Newydd, Embroiderer’s Guild UK a’r Garden Museum, Llundain.
Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa: