Rehana Zaman

b. 1982, Heckmondwike, Yorks
Byw a gweithio London

Mae Rehana Zaman yn artist y mae ei gwaith yn cyfeirio at syniadau o berthnasedd a chymdeithasgarwch, gan chwilio am bosibiliadau o agosatrwydd a chamwedd o fewn cyd-destunau gelyniaethus. Mae dulliau sgwrsio a chydweithredu wrth wraidd ei ffilmiau, sy’n ymestyn i destunau, perfformiadau a gwaith grŵp.

Mae hi wedi arddangos ei gwaith yn eang yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Mae ei chyflwyniadau diweddaraf yn cynnwys Serpentine Projects, Llundain (sydd i ddod); Tromsø Kunstforening; BEK – Canolfan Celfyddydau Electronig Bergen; Sioe Gelf Prydain 9 (ar daith); Sefydliad Celfyddydau Cyfoes (ICA) Miami; Trinity Square Video, Toronto; Amgueddfa Hammer, Los Angeles; Gŵyl Gerflunio Ryngwladol Borås a gynhelir bob dwy flynedd yn Sweden, a Gŵyl Ryngwladol Ffilmiau Artistiaid Whitechapel (teithiau byd-eang). Yn 2019 cyd-olygodd Tongues gyda Taylor Le Melle, a gyhoeddwyd gan PSS ac a gyrhaeddodd restr fer Gwobr Jarman Film London. Mae hi’n aelod o gydweithfa artistiaid not/nowhere ac mae ei ffilmiau’n cael eu dosbarthu gan LUX.

Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa:
Cinema // Sinema: Jarman Film London 2023 screening

Dolenni :
https://rehanazaman.com/