Mae ymarfer rhyngddisgyblaethol Julianknxx yn cyfuno’i waith barddonol â pherfformiad, ffilm a cherddoriaeth, gan geisio mynegi realiti anhraethol profiadau dynol wrth archwilio’r strwythurau yr ydym yn byw drwyddynt. Wrth gyfeirio at ei arfer ei hun fel ‘archif byw’ neu ‘hanes oddi isod’, mae Julianknxx yn tynnu oddi ar draddodiadau llafar Gorllewin yr Affrig i ail-fframio sut yr ydym yn llunio safbwyntiau lleol a byd-eang. Mae’n gwneud hyn trwy gorff o waith sy’n herio syniadau sefydlog o hunaniaeth ac yn datrys naratifau hanesyddol a chymdeithasol-wleidyddol unionlin.
Mae Julianknxx wedi arddangos ei waith ac wedi perfformio yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, gan gynnwys Oriel Whitechapel, Llundain; Gulbenkian, Lisbon ac Amgueddfa Stedelijk, yr Iseldiroedd. Bydd yr arddangosfeydd a’r perfformiadau nesaf yn cael eu cynnal yn Art Basel, Basel, (2023); Canolfan Barbican, Llundain (2023) a Tate Modern, Llundain (2023).