
Jason&Becky, Hedonistic Affect at Under the Counter Culture - Tactile Bosch
Artistiaid cydweithrediadol yw Jason & Becky yn Abertawe, De Cymru. Mae eu gwaith yn ymateb i amodau cymdeithasol-wleidyddol cyfredol gan ddefnyddio ystod o gyfryngau a fformatau arbrofol i drochi cyfranogwyr mewn gofodau amwys y gellir eu dehongli'n unigol lle gallant ddod ar draws a chwestiynu categorïau, diffiniadau a ffiniau sy'n bodoli eisoes.
Ar ôl cyfnod o ymchwil PhD yn seiliedig ar arfer, maent ar hyn o bryd yn archwilio ffyrdd newydd o ymgysylltu’n greadigol yn y byd cyhoeddus, mae ganddynt ddiddordeb arbennig gweithio yn y ‘tir neb’ sy'n bodoli rhwng y ddau begwn ymddangosiadol a chroestynnol a ystyrir fel diwylliant 'aruchel' a diwylliant 'poblogaidd'.
Gyda chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, maent ar hyn o bryd yn archwilio defnyddio gwrthrychau yn eu gweithiau celf gweledol a sonig, sy'n hybu cyfranogwyr, ac yn rhoi awtonomi iddynt, i ymdrin yn gorfforol â'u profiadau ymgolli eu hunain. Mae prosiectau diweddar yn cynnwys The Night-time Blitz Experience gydag Artshell a Chymdeithas Hanes Lleol Grangetown, Caerdydd 2021, What Makes a Home gyda Theatr Volcano a thrigolion Grŵp Tai Coastal, Abertawe 2019, The Life & Times of Gnarls Curtaco gyda Grŵp Tai Coastal ac Oriel Mission, Abertawe 2019; ymhlith eu preswyliadau mae Casa Del Ospitalita, Cannaragio, Fenis a phreswyliad 24 awr Spit a Sawdust, Caerdydd.
Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa: tibrO yalP Dolenni :www.jasonandbecky.co.uk