Eric Martin Kamosi

Byw a gweithio Cardiff

Mae Eric Martin Kamosi yn gerddor creadigol yng Nghaerdydd. Mae’n archwilio cydberthynasau rhwng cerddoriaeth, cyfryngau gweledol, cyfryngu digidol a symud. Ar hyn o bryd mae'n dylunio teganau sain sy'n seiliedig ar feddalwedd i gerddorion a phobl nad ydynt yn gerddorion eu defnyddio gyda'i gilydd mewn perfformiadau cydweithredol. Mae hefyd wedi gweithio ar brosiect ymchwil a datblygu sy'n archwilio sut y gall perfformiad edrych a swnio pan mae modd i ddawnsiwr a cherddor reoli'r sain mewn seinwedd gerddorol trwy feddalwedd sy'n ymateb i symudiad neu gitâr yn cael ei chwarae.


Rwy'n gitarydd a chyfansoddwr gyda diddordeb mewn sain, mewn archwilio cydberthnasau rhwng cerddoriaeth, cod a delweddau sy’n symud. Rwy'n gwrando ar musique concrčte, cerddoriaeth aleatorig a rhyngweithiol, ochr yn ochr â dulliau o ganu mwy traddodiadol ac rwy wedi edrych ar effeithiau semanteg ac effaith gogwyddiad cyfryngu ar gerddoriaeth. Mae hyn wedi fy arwain at arbrofi gyda gwahanol synau ac arddulliau perfformio. Rwy'n mwynhau gwaith byrfyfyr a chreu cerddoriaeth ar gyfer perfformiadau byw.

Mynychodd Eric Brifysgol De Cymru i gwblhau gradd BA (Anrh) mewn Sain Creadigol a Cherddoriaeth ac mae wedi chwarae gitâr ers plentyndod cynnar. Mae Eric yn mwynhau cyfansoddi trwy gyfrwng cerddoriaeth blues, roc, electronig ac aleatorig. Mae ganddo hefyd ddiddordeb mewn cerddoriaeth gyfrifiadurol, gosodweithiau delwedd a sain. Arweiniodd hyn ef at astudio Cyfryngau Integredig ym Mhrifysgol OCAD yn Toronto. Mae hefyd wedi cwblhau MSc mewn 'Cyfansoddi Digidol a Pherfformio' (cyfansoddi cerddoriaeth electronig arbrofol gan ddefnyddio meddalwedd wedi ei ysgrifennu ganddo ef ei hun) ym Mhrifysgol Caeredin a hyfforddi fel cyfansoddwr cyfryngau yn Conservatorio di Musica ‘Francesco Venezze’. Cyfansoddodd a pherfformiodd gerddoriaeth ar gyfer gwaith arobryn cwmni Earthfall o Gaerdydd, ‘Stories From a Crowded Room’. Yn ddiweddar bu Eric yn gweithio gyda Tŷ Cerdd ar Plethu: Affricerdd mewn cydweithrediad ag Idrissa Camara. Mae Eric yn parhau i ysgrifennu cerddoriaeth electronig ac acwstig newydd ac yn mwynhau perfformio.

Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa:
tibrO yalP

Dolenni :
www.ericmartinkamosi.com