Phoebe Davies

b. Pen-y-bont ar Ogwr
Byw a gweithio Vale of Glamorgan

Title: Embrace, performance for camera still, Phoebe Davies, 2019
Title: Embrace, performance for camera still, Phoebe Davies, 2019

Mae Phoebe Davies yn artist o Gymru sy'n gweithio gyda delweddau symudol, perfformiad, argraffu a sain. Mae ei gwaith yn aml yn cael ei lunio gan fodelau cydweithredol o weithio o sectorau cymdeithasol a diwylliannol gwahanol, gan gynnwys methodolegau athletiaeth, actifiaeth, ffuglen ddamcaniaethol a ffermio organig.



Ffurfiwyd gwaith Phoebe gan waith maes hirdymor, gan weithio'n rheolaidd ag unigolion, cymunedau a lleoliadau ac mewn ymateb iddynt. Trwy gydweithio â grwpiau o berfformwyr a phobl eraill o genedlaethau gwahanol, mae'n creu gwaith trwy berfformio i'r camera, ysgrifennu rhydd a recordio y tu allan i'r stiwdio. Mae ei gwaith bob amser yn defnyddio'r lens, y corff a'r llais i archwilio gwahaniaethau main a thensiwn profiadau greddfol dynol a gwleidyddiaeth bersonol.

Ochr yn ochr â'i gwaith stiwdio, mae'n cydweithio'n barhaus gyda’r perfformiwr a choreograffydd Nandi Bhebhe. Fel Bhebhe&Davies, maent yn cyfarwyddo gwaith perfformio sy'n pontio'r llwyfan a'r sgrin.

Mae ei phrosiectau diweddaraf wedi'i harwain at weithio gydag addysgwyr ym maes rhyw, myfyrwyr ysgolion uwchradd, cartrefi gofal, timau chwaraeon a DJs, yn ogystal â mannau celf a sefydliadau, gan gynnwys Gŵyl y Llais, Canolfan Gelfyddydau Chapter (Caerdydd), Tate Britain a Tate Modern (Llundain), Whitechapel Gallery (Llundain), Arnolfini (Bryste), the Wellcome Collection (Llundain), Eastside Projects (Birmingham), Wysing Arts Centre (Caergrawnt), Steirischer Herbst (Graz, Awstria), Praksis (Oslo, Norwy), Portland Institute of Contemporary Art (Portland, UDA), SA-UK SEASONS (Johannesburg, De Affrica).

Mae hi wedi derbyn Cymrodoriaeth Arferion Cymdeithasol y British Council, Cronfa Gyntaf Gwaith Newydd Jerwood a Phreswylfa Labordy Cyfnewid Creadigol PICA ac roedd yn aelod o Syllabus III, rhaglen ddysgu amgen a arweiniwyd gan gymheiriaid.

Mae ei gwaith yn cael ei lunio trwy weithio gyda mentrau a arweiniwyd gan artistiaid a grwpiau cymheiriaid, a'u hwyluso, gan gynnwys y canlynol: Bedfellows, prosiect ymchwil radical ailaddysgu rhyw; Synaptic Island, DJ “womxn” ac anneuaidd a chasgliad o synau; a Fieldwork, rhaglen breswyl wledig a datblygu artistiaid yn Ne Cymru.

@phedavies

Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa:
g39 Fellowship FOUR

Dolenni :
www.phoebedavies.co.uk
  • Title: Embrace, performance for camera still, Phoebe Davies, 2019
  • Bhebhe&Davies, performance for camera still, Image credit: Susanne Dietz 2021
  • Post Bout #02, performance for camera still, Phoebe Davies, 2019