Mae prosiectau Larry Achiampong yn defnyddio delweddaeth, archifau clywedol a gweledol, perfformiadau byw, a sain i archwilio cymhlethdodau dosbarth, deinameg drawsddiwylliannol, a hunaniaeth ôl-ddigidol yn fanwl. Trwy gloddio’n ddwfn am adleisiau hanes, mae Achiampong yn archwilio cymysgrywiaeth ei dreftadaeth ochr yn ochr â'r croestoriad rhwng diwylliant poblogaidd a gwaddol trefedigaethu.
Mae’r ymchwiliadau hyn yn craffu ar gystrawennau’r ‘hunan’ trwy asio deunyddiau clywadwy a gweledol o archifau personol a rhyngbersonol. Wrth wneud hynny, mae’n cynnig safbwyntiau lluosog sy’n datgelu’r anghydraddoldebau sydd wedi gwreiddio’n ddwfn yn y gymdeithas gyfoes.
Mae Achiampong wedi cyflwyno prosiectau ar draws y DU ac yn fyd-eang, gan gynnwys comisiynau gydag Art on the Underground, Llundain (2022), a The Liverpool Biennial, Liverpool (2021). Cyflwynwyd arddangosfa unigol ddiweddaraf Achiampong, ‘A Letter, A Pledge’, yn Oriel Stanley Picker ym mis Ionawr 2024.