Aelod o grŵp celfyddydau a thecstilau menywod ers 2017 sydd wedi ymwneud â gwaith tecstilau’n bennaf gyda'r grŵp ers peth amser gan gynnwys, dylunio argraffiadau sgrin ar gyfer cwilt a gyflwynwyd gan y grŵp i'r Eisteddfod Genedlaethol yn 2018.
Rwyf wedi cynnal gweithdai celf i blant gan gynnwys gweithdai sy'n ymwneud â chreu gwaith marmori inc i blant yn ArcadeCampfa (2019) ac yn fwy diweddar, wedi bod yn arwain y gwaith o ddatblygu strategaethau i’r dyfodol ar gyfer yr Aurora Trinity Collective, sy'n adlewyrchu fy niddordeb yn y ffordd mae creadigrwydd yn effeithio ar newid cymdeithasol.
Mae'r gwaith diweddar wedi'i gyflawni fel rhan o gyfnod preswyl gyda madeinroath (Gorffennaf 2020), gyda rhan helaeth o'r gwaith yn seiliedig ar waith ymchwil, a chyfres o gollages wedi'u creu ar feddyliau a theimladau wrth wneud y gwaith ymchwil am y pwnc ac mae'r gwaith ymchwil yn mynd rhagddo o hyd. Mae'r cyfnod preswyl hwn wedi arwain at archwiliad manwl o rôl y wraig tŷ, yn arbennig am deimladau menywod tuag at waith tŷ.