
Dimensions of Publicness, 24th Biennial of Humour and Satire in Art 2019 Awarded: Golden Aesop Grand Prix w/ Katarina Rankovic, Museum of Satire & Humour in Art, Gabrovo Bulgaria
Mae Tom Cardew yn artist amlddisgyblaethol sy'n gweithio ym maes ffilm, gosodiad a pherfformiad. Mae ei ymarfer yn ymwneud â'r llinell aneglur rhwng yr hyn sy'n real a'r hyn sy'n gynrychioliadol.
Gan geisio dianc rhag y diffiniadau deuaidd o wirionedd a ffuglen, mae ei waith yn cymysgu elfennau cyfarwydd y byd real yn rhywbeth absẃrd ac amwys. Mae Cardew yn galw ar berfformiad pethau -nwyddau, delweddau, testunau, pobl - a natur cyfnewid dynol sy'n aml yn absẃrd. Mae disgwyliadau ymddangosiadol gwrywdod heteronormadol, a pherfformiad dilynol gwrywdod fel lluniad hunaniaeth, yn ddylanwad amlwg iawn.
Astudiodd Tom yn MFA Central St Martins (2018).Mae arddangosfeydd, dangosiadau sgrin a gweithdai diweddar yn cynnwys:
Tate Exchange, Tate Modern – Llundain, Lloegr (2017 a 2018); Dangosiad
Sgrin Ffilm Agored Oriel Whitechapel – Llundain, Lloegr (2017);
Metaphors & Spatiality, Sefydliad Celfyddydau Cain Prifysgol Sichuan – Chongqing, Tsieina (2017/18);
TBCTV, Somerset House (2018);
NOVA Cymru, yr Academi Frenhinol Gymreig, Canolfan Celfyddydau Aberystwyth ac Arcêd, Caerdydd (2017/18);
Xhibit, Gofod Prosiect Bermondsey – Llundain (2018).
Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa: Love Hangover g39 Fellowship THREE Soft split the Stone Dolenni :www.tomcardew.co.uk