Jessica Warboys

b. 1977, Newport, Wales
Byw a gweithio Suffolk, England and Berlin, Germany

Jessica Warboys, <i>Pageant Roll</i>, video still, 2012
Jessica Warboys, Pageant Roll, video still, 2012

Mae

Jessica Warboys yn gweithio gyda ffilm, paentiadau, cerflunwaith a gwydr lliw. Ond ei phrif gyfrwng o bosib yw'r pwerau trefniadol o debygrwydd a’n gallu a'n parodrwydd i fynd ati i’w ganfod.


Mae gwyliwr delfrydol Warboys yn cymryd rhan yn fodlon mewn drama cydnabod, heb ofyn pa gyfrwng sydd yn y safle cyntaf. Mae ffilm, gwrthrych, gwaith gwydr a chynfas yn gyfartal, ac nid yw'r un ohonynt yn blaenoriaethu dros y rhai eraill. Yn hynny o beth, gellid disgrifio ei harfer yn 'ochrol': nid yw'n nodi tarddiad ond yn codi'r cwestiwn yn unig o ba un o'r cyfryngau hyn allai ragflaenu'r rhai eraill. Maent yn rhan o barth trothwy rhwng paentiad, gwrthrych a phrop ffilm. Yn gyfnewid, nid yw gwaith ffilm yr artist byth yn datgysylltu ei hun yn hollol o'r gwrthrychau materol y mae'r gwyliwr yn eu gweld ar y sgrin oherwydd mae'r gwrthrychau hyn yn codi eto yn yr un gofod oriel lle mae'r ffilm yn cael ei thaflu. Mae pob darn yn arwain y gwyliwr i fwy nag un cyfeiriad mewn rhwydwaith o gydgysylltiadau.

Astudiodd Jessica yng Ngholeg Celfyddydau Aber-fal ac Ysgol Gelf Slade, Llundain. Cafodd ei dewis i Artists’ Film International, Oriel Gelf Whitechapel, Llundain yn 2013, a chymerodd ran yn DOCUMENTA 13, 2012. Ymhellach i ffwrdd, cymerodd ran yn 9ª Bienal do Mercosul, Porto Alegre, Brasil, 2013. Yn fwy diweddar, mae wedi arddangos yn Gaudel de Stampa, Paris; State of Concept, Athens; 1857, Oslo, 2015 a Kunstverein Amsterdam, 2016. Yn ystod 2016–17, cymerodd Warboys ran yn British Art Show 8 ac yn 2017 cafodd sioe unigol yn Tate St Ives.

Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa:
Rumblestrip

Dolenni :
http://jessicawarboys.com/
  • Jessica Warboys, <i>Boudica</i>, video still, 2014.
  • Jessica Warboys, <i>Pageant Roll</i>, video still, 2012
  • Jessica Warboys, <i>Pageant Roll</i>, video still, 2012
  • Jessica Warboys, <i>Sea Paintings</i>,  2014
  • Jessica Warboys, <i>Hill Of Dreams</i>, video still, 2016
  • Jessica Warboys, <i>Hill Of Dreams</i>, video still, 2016