
Messy Democracy
Mae Anna Raczynski yn wneuthurwr ffilm ac yn artist gweledol sydd â diddordeb pennaf mewn arferion celfyddyd dogfennol a chydweithredol. Mae hi'n gweithio gyda delweddau symudol ac arferion celfyddyd dogfennol estynedig i fynegi syniadau cysyniadol yn ymwneud â hunaniaethau diwylliannol a chymdeithasol o fewn mannau cyhoeddus a phreifat.
Mae'r grwpiau, cymunedau ac unigolion mae hi'n dewis gweithio gyda nhw yn rhoi ystyron a phrosesau gwahanol i'w harferion. Ar gyfer y gwaith sydd ar y gweill,
Messy Democracy, gwnaeth Anna weithio gyda myfyrwyr o Brifysgol Canolbarth Sir Gaerhirfryn ac aelodau o'r gydweithfa Precarious University. Ar y cyd, gwnaethant ddatblygu arddangosfa a oedd yn ymateb i'r posibilrwydd o ail-greu’r ysgol gelf fel gofod ar gyfer gweithredu creadigol a democrataidd.
Mae'r arddangosfeydd yn cynnwys:
Pendle Movie Maker, Colne, Lancashire (2018);
SURVIVAL Art Review, Wroclaw Poland (2016);
Godzina Trzech Wiedz´m [Triple Witching Hour], Galeria Piekary, Poznan, Poland (2016). Enillodd Raczynski 'Jerwood Visual Arts' Gwobr Artist (2017).
Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa: Survey Dolenni :https://annaraczynski.com/ANNA-RACZYNSKI