
Mae Ashley Holmes yn archwilio theori ôl-drefedigaethol ac agweddau cyfoes, a'u heffaith ar systemau gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol, gan weithio ar draws fideo, perfformiad, cerflunwaith a cherddoriaeth.
Mewn gwaith diweddar, mae Holmes yn ceisio dadansoddi'r etifeddiaeth o weithgarwch casgliadol o fewn cymunedau diasporaidd Affricanaidd. Mae'r gwaith yn edrych ar blatfformau archifo a dogfennu newydd, gan ganolbwyntio ar ddynameg perfformiad mewn mannau cyhoeddus. Mae
Cry Then Win Then Lose Reaction yn archwiliad manwl o ddeialog a pherthynas afreolus rhwng diwylliannau rap trawsatlantig a chyfrwng eilaidd fideo ymateb ar y rhyngrwyd. Mae gan Holmes ddiddordeb yn y rolau gwahanol a ymgymerir o fewn y platfformau hyn a'r bont unigryw maent yn ei darparu rhwng sgyrsiau am y ddealltwriaeth drawsatlantig o dduwch.
Astudiodd Ashley yn Sheffield Hallam University, Sheffield (2013). Mae'r arddangosfeydd yn cynnwys:
Les Urbaines, Lausanne, Switzerland (2018);
Cry Then Win The Lose Reaction, Two Queens, Leicester (2018);
Collective Failure, J Hammond Projects, Llundain (2018);
Mantel, Cactus, Copperfield Gallery Llundain (2018);
Bloc Projects, Hybrid Art Fair, Madrid, Sbaen (2018);
Money Cyant Fool Them Again, 1.1, Basel, Y Swistir (2017);
Starless Midnight, BALTIC Centre for Contemporary Art, Gateshead (2017).
http://www.ashleyholmes.co.uk/
Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa: Survey Dolenni : http://www.ashleyholmes.co.uk/