
Mae Emma Cousin yn edrych ar yr hyn y gallwn ni ei reoli a’r hyn na allwn ni ei reoli mewn bywyd bob dydd, gan ddefnyddio'r corff i archwilio dyheadau a disgwyliadau dynol. Mae ei phaentiadau yn cwestiynu pa mor gefnogol rydym o'n gilydd fel menywod, fel cyrff ac fel unigolion.
'Mae ymadroddion fel 'dal fy hun at ei gilydd' neu 'hongian o gwmpas' yn aml yn fannau cychwyn i'r gwaith, sy'n defnyddio stereoteipiau benywaidd fel naratif craidd. Rwyf yn defnyddio'r corff, neu grwpiau o gyrff, i adeiladu strwythur, i gyflwyno ‘newidiadau mewn statws’: megis symudedd, dillad a heneiddio. Gallai'r grwpiau fethu – ydyn nhw'n mynd i syrthio drosodd neu syrthio ar led? Mae perygl heb sôn amdano, perthynas rhwng y ffigyrau a allai fynd y naill ffordd neu'r llall – er mwyn darparu system gymorth, neu er mwyn tynnu ei gilydd yn ddarnau. Rwy'n chwilfrydig ynglŷn â'n disgwyliadau am ein cyrff a barn am gyrff eraill. Rwyf yn profi eu ffiniau ac mae gennyf ddiddordeb mewn rhoi'r cyrff mewn perygl. Maent yn bodoli mewn gofod trothwyol sy'n fan anghyfforddus, yn ymyl neu’n ffin – gofod rhyngom ni a'r hyn nad yw'n ni.'
Astudiodd Emma yn Ruskin School of Drawing and Fine Art, University of Oxford in 2007. Mae'r arddangosfeydd yn cynnwys:
Mardy, Edel Assanti (2018);
Leg Up, Lewisham Art House, Llundain (2018);
Wasp, Hannah Barry Gallery, Llundain (2018);
8 Minutes from Here, Southbank Centre, Llundain (2013). Arhosodd Cousin yn residency Skowhegan School, Maine, UDA (2018)
Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa: Survey Dolenni :https://emma-cousin.squarespace.com/about/