Rae-Yen Song

b. 1993, Edinburgh
Byw a gweithio Glasgow

Mae Rae-Yen Song yn artist amlddisgyblaethol sy'n tynnu oddi ar ei hunaniaeth a'i safle yn y gymdeithas er mwyn cynnig safbwyntiau gwahanol ar realiti gymdeithasol, gan dynnu elfennau o'i hunaniaethau diwylliannol i echdynnu ac ehangu ar eu hystyr.


Mae arferion cyfredol Song yn tynnu oddi ar ei hunaniaeth i archwilio ffigwr yr arall diwylliannol, gan ddefnyddio'r hunan i ddatgelu rhywfaint o’r gymdeithas heddiw. Mae'n cymryd elfennau o'i hunaniaethau Tsieineaidd ac Albanaidd, gan eu prosesu drwy ddarlunio a gwneud, er mwyn echdynnu ac ehangu ar eu hystyron a'u nodweddion gweledol. Mae hyn yn creu iaith ddiwylliannol unigryw sy’n deillio o'r ddau ddiwylliant ond sydd heb berthyn i'r naill na'r llall. Mae'r gwaith yn datblygu'n fynegiant personol, sydd eto'n siarad yn ehangach ac yn wleidyddol ynglŷn â hil, diwylliant, hunaniaeth a pherthyn.

Astudiodd Rae-Yen Song yn Glasgow School of Art (2014) ac hi'n gweithio gyda Jarsdell Solutions Ltd a YAKA Collective. Mae'r arddangosfeydd yn cynnwys: Platform 2018, City Art Centre, Edinburgh Art Festival (2018); Good Press (gyda Jarsdell Solutions Ltd), Glasgow International (2018); Sura Medura International Residency, UZ Arts, Sri Lanka (2017); GOOD FORTUNE! DOUBLE HAPPINESS!, Laurieston Arches, Glasgow Open House Festival (2017).

Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa:
Survey

Dolenni :
http://rae-yen-song.tumblr.com/