Fern Thomas

Byw a gweithio Swansea, Wales

Fern Thomas, For a spell, video still, 2020
Fern Thomas, For a spell, video still, 2020

Fern Thomas (Abertawe). Wedi gwreiddio’n ddwfn ym mhrosesau ac egwyddorion Cerflun Cymdeithasol, mae Fern Thomas yn archwilio cryfder a pherthnasedd cymdeithasol y darlun yn ei ystyr ehangaf gan weithio gyda gwrthrychau, testun a ffurfiau cyfranogol.

Mae ei hymarferiad yn chwarae gyda chreu chwedlau, hud gwerin ac iachâd gwerin, a’r angen am ddefodau newydd. Mae hi’n archwilio delweddau archdeipaidd, gofodau addysgeg a thirwedd fewnol, yn creu gwaith ag gwreiddiau yn natur, ei rhythm a’i le. Mae cynwyseddau trawsffurfiol y ddelwedd yn gweithredu fel cyfareddiad cyfredol ac adnodd ar gyfer gwaith a chydweithrediad a gallai ei brofi drwy wneud, trafod, gofodau egnioledig, prosesau byw ac wedi eu dogfennu, a’r gair llafar ac ysgrifenedig.

Yn fwy diweddaraf, mae Thomas wedi dychwelyd i egwyddorion Cerflun Cymdeithasol, gan chwilio am gysylltiadau gyda dinasyddiaeth, gofodau dinesig, chwarae a ‘gwneud perthynas’, gan eu dychmygu fel offer i sut rydym yn byw mewn, a chyd-ymateb i waeledd hinsawdd.

Daeth Fern i’r brig ym Mostyn Agored (2011), roedd yn dderbynnydd gwobr ‘Arts and Humanities Research Council Award’ (2011/2012), cafodd ei gwobrwyo â Interdisciplinary Arts Prize (2013) ym Mhrifysgol Oxford Brookes am ei gwaith yn ystod ei hastudiaethau ôl raddedig mewn Cerflun Cymdeithasol, a derbyniodd Dyfarniad Cymru Greadigol yn 2014 i gefnogi ei hymchwil cyfredol i ffurfiau cyfranogol a’u perthynas gyda chynaladwyedd. Derbyniodd Thomas ei MA yn Cerflun Cymdeithasol o brifysgol Oxford Brookes, gan weithio gyda Shelley Sacks, ble datblygodd y sefydliad ymchwil ôl-apocalyptaidd Imagined Futures & Unknown Lands.

Ar y cyd, dechreuodd y grwpiau cydweithredol a phedagogic Art’s Birthday Wales a Forever Academy, gan weithio’n glos gyda'i phrif gydweithredwr Owen Griffiths.

Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa:
The Rejoinders
g39 Fellowship - ONE
nonsequences
  • Fern Thomas, For a spell, video still, 2020
  • Fern Thomas, Research image, 2019
  • Fern Thomas, an inventory of practice, text work, 2019
  • Fern Thomas, widening circles, text and image work, 2019