
Mae gwaith Rujuta Rao yn cynnwys gwneud gwrthrychau gydag amrywiaeth o gyfryngau fel pren, ffotograffau a phapur.
Mae'r gwrthrychau hyn yn cael eu dylanwadu gan ei hobsesiwn gyda bwyd ac offer sy'n ymwneud â bwyd, ei phryderon o ran cynrychiolaeth gerfluniol yr offer sinematograffig a'i chwestiynau ynglŷn â ffotograff fel gwrthrych. Mae hi hefyd yn gweithio gyda darnau sain, fideos byr a thestun. Mae hi nawr yn treulio gormod o amser yn pendroni ynglŷn â sut y gall hi ddod â'r cyfan at ei gilydd. Yn ddiweddar mae wedi bod yn canolbwyntio’n fawr ar y gwaith o weini mewn bar ac mae hyn wedi bod yn ffynhonnell ysbrydoliaeth iddi: yr offer, y technegau, yr ystumiau, y drefn a rôl yr unigolyn tu ôl i'r bar fel catalydd ar gyfer awyrgylch ac fel rhywun sy'n gallu meddwi'r llall yn raddol. Ar hyn o bryd mae Rao yn byw ac yn gweithio yn Goa.
Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa: The Rejoinders