Heledd C Evans

b. 1997, Banbury
Byw a gweithio Cardiff

Heledd Evans
Heledd Evans

Aros yng Nghaerdydd fu hanes Heledd ar ôl iddi raddio mewn Celf Gain o Brifysgol
Met Caerdydd yn 2019, ac mae ei gwaith yn cylchdroi o gwmpas sain, cerddoriaeth
ac ymgysylltu cymunedol.

Ysgrifennwyd Afon I yn 2023 fel rhan o broject Organ@Soar Tŷ Cerdd, pan
wahoddwyd artistiaid i greu gwaith newydd ar gyfer yr organ fecanyddol oedd wedi ei
hadnewyddu yn Theatr Soar, Merthyr. Y broses o lunio’r darn hwn ddechreuodd fy
obsesiwn gyda’r organ fecanyddol a’r amrywiaeth o fydoedd sŵn maen nhw’n gallu
eu creu. Crëwyd Afon I gyda hyn mewn golwg, gyda’r bwriad o alluogi’r grandaẅr i eistedd gyda phob cyfuniad o donau am ddigon o amser i ‘diwnio mewn’ i ddyfnder
eithriadol yr amrywiaeth sydd i’w ganfod ym mhob nodyn.

Mae arddangosfeydd a pherfformiadau diweddar Heledd yn cynnwys cefnogaeth i
Maggie Nichols a Dan Johnson yn Chapter, preswyliad 24 awr yn Spit and Sawdust
gydag Arcade/Campfa, a chyngerdd Organ@Soar Tŷ Cerdd. Ar hyn o bryd mae’n
artist preswyl yn Bay Art.

Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa:
Sightseers
Exhibition // Arddangosfa:
REBUILD the POETS
  • Heledd Evans
  • Heledd Evans
  • Heledd Evans