Dw i'n artist Cymreig o Ynys Môn a graddiais yn ddiweddar â gradd dosbarth cyntaf mewn Celfyddyd Gain o Goleg Celf Chelsea, Llundain. Mae'r cyfnod presennol yn gyfnod cyffrous ac allweddol yn fy ngyrfa wrth i mi ddechrau sefydlu a datblygu fy ngwaith y tu hwnt i gysur byd prifysgol. Mae'n gyfnod lle mae parhau i sgwrsio ac i gyfnewid syniadau am gelfyddyd gyfoes yn teimlo'n gwbl hanfodol.
Cafodd fy nghasgliad gradd ei enwi ar restr fer Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 2016 a'i arddangos yn y fan honno. Enillodd gydnabyddiaeth am ei gysylltiad barddonol â bywyd y Gymru wledig; mae hwn yn llais hollbwysig yn fy ngwaith sy'n cael ei gyflwyno trwy gyfrwng cerfluniau a gosodweithiau. Mae'r offerynnau rhyfedd a grëwyd yn 'Tudalennau 102-105' yn fersiynau o hen offer llaeth, a ailadeiladwyd ar sail darluniau yn llyfrau amaethyddol hynafol fy mam-gu.
Ers graddio, dw i wedi gweithio yng ngweithdai coed y Tŷ Opera Cenedlaethol, wedi gwirfoddoli ac arddangos yng Ngŵyl Gelfyddydau Peckham a dw i newydd ddychwelyd yn ddiweddar o breswyliad cerfluniol mis o hyd yn Jodphur, India.