
Ella Jones Thanatopsis 2017
Mae Ella yn creu gosodweithiau, cerfluniau, a gwisgoedd sy'n canolbwyntio ar ddysgu cinesthetig: dysgu trwy symudiad corfforol, a chreu rhyngweithiadau diriaethol rhwng cynulleidfa a gwaith celf. Mae gwyddoniaeth a seicoleg yn llywio ei gwaith ar gyffyrddiad o'r macro i'r micro, o therapďau cyffwrdd ac ystafelloedd synhwyraidd i brosesau derbynyddion cyffwrdd yn yr ymennydd a rhinweddau cyffyrddol celloedd wedi eu gweld trwy ficrosgop.
Rwy’n archwilio chwilfrydedd cyffwrdd, gan greu cerfluniau sy’n gwahodd chwarëusrwydd a rhyngweithio. Amlygir hyn yn y defnydd o wead, defnydd, lliw a'r ffordd y cânt eu dangos. Mae bod yn artist amlddisgyblaethol sy'n creu printiau a cherfluniau yn fy ngalluogi i ymchwilio i strwythur a ffurf yn fy ngwaith. Mae gen i ddiddordeb mewn dangos y gall bron unrhyw beth fod yn gerflun, a bod y syniad yn wrthrychol.
Ymhlith prosiectau diweddar mae Artist Preswyl Ymchwil Mitocondria y Welcome Collection (2020-2021), a chyrraedd rownd derfynol Gwobr Ingram (2020), Rat Trap, Artist Blind Date a Meicro-breswyliad, Caerdydd, (2020). Graddiodd Ella o Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yn 2017 a chafodd ei dewis ar gyfer rhaglen Goruchwylio Arbennig: Cymru yn Fenis 2017.
Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa: Sightseers RAT TRAP x g39 tibrO yalP Dolenni :www.linktr.ee/Ellalouisejones