
Mae Shamus McPhee yn artist ac actifydd. Mae ganddo M.A. mewn Astudiaethau Celtaidd a Sbaenaidd o Brifysgol Aberdeen a diploma ôl-raddedig mewn Cyfieithu o Brifysgol Warwick. Mae’n un o aelodau sylfaenol y Scottish Gypsy Traveller Law Reform Coalition (SGTLRC) a chwaraeodd ran flaenllaw wrth sefydlu statws cyfreithiol ethnig Teithwyr Sipsi'r Alban. Mae paentiadau McPhee wedi cael eu harddangos mewn lleoliadau mor amrywiol â Ffair Geffylau Appleby yn Cumbria a'r Venice Biennale. Mae ei ymarfer celf yn parhau i fod yn rhan annatod o'i ymchwil i gydnabyddiaeth a gwelededd diwylliannol.
Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa: