Mae Jennifer Taylor (Caerdydd) yn gweithio gyda ffilm a pherfformio byw i greu senarios absẃrd ble mae systemau rhyfeddol yn ymddangos ac yn newid, yn aml tuag at bwynt argyfwng neu fethiant. Mae’n defnyddio adeiladwaith gadawedig mewn tirweddau pell fel setiau llwyfan hapgael, ac o amgylch hyn yn creu naratif ffuglennol.
Mae claddgelloedd neolithig hynafol a thyrau tywyll yng Nghymru yn cyflwyno gosodiad swrrealaidd dadleoledig sy’n cyfleu teimlad o ddirywiad apocalyptig. Mae Taylor yn perfformio defodau penodol yn y safleoedd hyn, fel ei bod hi wedi ei chaethiwo rhywsut gan rymoedd llywodraethol sy’n ymddangos ei fod yn harneisio ei hegni drwy ryw feddiant parasitig gwrthnysig. Mae tiwbiau clymog a balwnau lletchwith yn gweithredu fel propiau hurt a drwg argoelus wrth i’r pantomeimiau sci-fi camweithiol ddatblygu.
Fe dderbyniodd Taylor y Gymrodoriaeth Cymru Greadigol -British School at Rome ( 2017) ac roedd yn gyn Artist Preswyl yn Larg De Artes, Rio de Jeneiro (2016). Fe gwblhaodd Taylor ei MA mewn cerflunwaith yn y Royal College of Art (traethawd estynedig gyda rhagoriaeth 2017) a'i BA mewn Celfyddyd Gain yn y Ruskin School, Prifysgol Rhydychen (anrhydedd dosbarth cyntaf 2004). Mae Taylor wedi arddangos a llwyfannu digwyddiadau perfformio mewn sawl galeri a gofodau cyhoeddus gan gynnwys A Gentle Carioca yn Rio de Janeiro, Fondation Cartier pour l’art Contermporian ym Mharis, Y Rifiera Ffrengig, Guest Projects Yinka Shonibare, The Wrapping Project, Yr ICA, Flowers East, Modern Art Oxford a Oxford University Press.