Dechreuodd Rabab Ghazoul greu theatr arbrofol yng Nghymru yn y 1990au, gan weithio fel cyfarwyddwr ac yn hwyrach fel perfformiwr. Mae ei gwaith nawr yn cynnwys gwaith fideo, gosodiad, testun, perfformiad a gwaith sy'n benodol ar gyfer y lleoliad.
Ganwyd Rabab yn Iraq a threuliodd ei phlentyndod yno hefyd. Mae'r profiad o fyw mewn dau ddiwylliant gwahanol yn ysbrydoli ei hymagwedd fel arsylwr a sylwebydd cymdeithasol, gan greu darnau o waith ar themâu amrywiol - gwleidyddiaeth, hanes, tiriogaeth, cymuned, mamwlad - sy'n ei denu i mewn i feysydd hunaniaeth ddiwylliannol a naratif personol ac yn ei thynnu y tu hwnt iddynt hefyd. Yn aml yn myfyrio ar effaith y diwylliant cyfalafol diweddar rydym yn parhau i'w ddefnyddio i gyflawni ein mudiadau penodol a defodol, canolbwynt ei gwaith yw darganfod y 'gwirionedd' ymhlith y broses barhaus o greu a defnyddio testunau preifat a chyhoeddus.
Mae ei gwaith diweddaraf yn cynnwys The Suitcase Project (2007) yn Beaver Arts (Copenhagen, Denmarc), a This Edible Map fel rhan o'r Gresol Festival of Art, Girona, Sbaen. Yn 2008, cynhaliwyd ei sioe unigol Can't Keep Up With Keeping You Down yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter a Rhandiroedd Caeau Pontcanna yng Nghaerdydd.