Flim Flam

Adeiladu ar ddim byd, gor-ddweud, twyll; tric, dwli, rhagrith. Mae'r gweiriau 'Flim Flam' wedi cael eu defnyddio droeon i ddisgrifio mwydro gwleidyddol, twyllau neu sgamiau ond mae tacteg datblygiad wedi'i ddefnyddio yng ngwaith artistiaid ers amser maith, yn aml yn dechrau o ganolbwynt aneglur ac anweladwy. Dyma a unodd yr artistiaid yn yr arddangosfa hon; maent yn dechrau gyda phethau meicro, o strwythurau celloedd a phicselau hyd at systemau dosbarthu amwys a chwarae ar eiriau. Ond nid triciau neu jôcs yw'r rhain, ond cwestiynau am iaith a dealltwriaeth, ffuglen a realaeth, bwriad a damwain.


Hyfforddwyd Dorrit Nebe yn yr Almaen fel micro biolegydd. Yn ystod y cyfnod hwnnw defnyddiodd nifer o lyfrau nodiadau i sgriblo diagramau o strwythur celloedd, bacteria ac organebau. Roedd hi'n ymddiddori'n fawr yn ei hastudiaethau o'r organebau bychan ac yn fuan, darlunio oedd ei phrif ddull o gofnodi. Aeth â'r llyfrau nodiadau hyn a oedd yn llawn strwythur celloedd i gyfweliad yn yr academi celf a chadarnhawyd ei rôl fel artist. Mae'r strwythurau micro hyn yn ail ymddangos yn ei gwaith nawr, bydoedd bach sydd fel pe na baent yn gwneud synnwyr o gwbl. Mae ei hysbrydoliaeth wedi'i liwio a'i blotio, rhywle rhwng lefel microbaidd ei hyfforddiant a'r sgriblo difeddwl sy'n dilyn awtomatiaeth symudiad. Mae hi'n llwyddo i'w trawsnewid yn fydoedd bach sy'n arnofio, gan greu rhyngberthnasau a naratifau allan o ddim byd.

Mae Anna Ellis hefyd yn creu naratifau allan o bethau bach. Gan edrych yn fanwl ar fyd y sêr, mae gwaith Ellis yn datgelu'r statws eiconig mae gwrthrychau yn eu mabwysiadu pan eu bod wedi cael eu hardystio neu eu defnyddio gan 'rhywun enwog'. Caiff manylion o'r hyn rydym yn edrych arno eu datgelu gydag awdurdod amgueddfaol fel ei fod yn ddibwys p'un a ydynt yn wir ai peidio. Ceir stamp cyffredin yr honnwyd ei fod wedi cael ei lyfu gan Sean Connery, ond p'un a yw hyn yn wir ai peidio, nid yw o bwys i'r gwyliwr am ei fod yn gyfarwydd â labelu mewn byd lle mae enwogion yn cael gymaint o sylw, mae ein meddyliau eisoes wedi rhoi gwerth ychwanegol i'r gwrthrych.

Mae Simon Holly yn edrych defnyddio dull arall i wneud a chyflwyno'i waith. Mae'n adnabyddus am gymryd a defnyddio delweddau y mae wedi eu darganfod, ac mae'n cyflwyno delwedd o bêl-droediwr allan o lyfr sticeri. Mae'r llun ychydig yn niwlog ac ni allwn adnabod y wyneb na'r enw oddi tano. Rydym yn gwybod mai un o chwaraewyr Dinas Caerdydd ydyw am fod y crys yn weladwy. Mae Simon wedi uno'r 24 chwaraewr. Ond nid chwarae triciau drwy ddefnyddio Photoshop yw hyn. Fel symud gronynnau o dywod, mae Holly wedi mynd drwy'r broses arteithiol o symud y picsel cyntaf o chwaraewr rhif un, yr ail bicsel o chwaraewr rhif dau ac yn y blaen er mwyn creu dogfen newydd. Mae dros 46,000 o bicselau wedi cael eu rhoi yn y ddogfen fesul un er mwyn ein cyflwyno â chwaraewr bob dydd, gwaith cyfansawdd, John Doe.

Yn y darn cydweithredol gan Dawn Culbert a Lis Dimond-Jones, mae'r artistiaid yn ein cyflwyno gyda cherfluniau sy'n awgrymu gwrthrychau ergonomaidd gweithredol sydd, drwy'r broses o rwymo a lapio, bellach yn feddal ac yn ddi-siap; mae eu hymylon yn organig ac yn ansicr yn hytrach nag yn onglog neu'n bigog. Os mai dyma tu allan y gwrthrych, mae'n arwain y gwyliwr i gwestiynu beth sydd yn y craidd, os o gwbl. Ai datblygiad ar wrthrych solid yw hyn, neu a ydyw'n ddatblygiad o'i hun? A yw cortyn wedi cael ei rwymo i gortyn i greu'r gwrthrychau hyn, a phe bai'r broses o ddatod yn dechrau, ymhle y byddai'n dod i ben? I'r artistiaid, mae'r weithred o rwymo sy'n ailadrodd ei hun yn disgrifio hysteria a rennir ac efallai mai'r hysteria hwn sydd yng nghraidd y gwrthrychau hyn.

Mae Barrie J Davies yn cyflwyno'i waith ar ffurf ôl-fodernaidd her i'n dealltwriaeth o'r hyn rydym yn edrych arno. Mae'n gosod testun o fewn ei wrthrychau mewn dull clyfar er mwyn gwyrdroi eu hystyr a'u dealltwriaeth. Yn ei waith sy'n dwyn y teitl betting slip cawn ein tynnu i gadarnhau ei statws dim ond wrth edrych arno. Mae'r darn o bapur yn awgrymu mai darn o gelf ydyw, ac yma rydym yn edrych arno yn yr oriel. A hynny am ein bod eisoes wedi rhoi'r gwerth hwnnw iddo. Rydym wedi cael ein twyllo. Disgrifia Davies ei waith fel rhywle rhwng y gwrthrych a'r broses, gyda hiwmor yn rhan o'i broses. Mae'n anelu at ddefnyddio dychan ac adloniant i droi'r byd tu fewn tu fas, gan gwestiynu’r hyn rydym yn chwilio amdano mewn celf ac mewn orielau.

Yn Flim Flam mae'r artistiaid yn ein tywys i fyd sy'n arnofio lle mae picselau'n gwrthdaro i wneud delweddau, cerfluniau'n bygwth chwalu a geiriau'n datgysylltu wrth eu hystyron.

Programme