Richard Higlett Welcome To Your World

preview 30 September 2011

Parkour Sketch
Parkour Sketch

From a temporary home in The Dairy, Pontcanna, Cardiff, g39 continues its exhibitions programme with Welcome To Your World, a point of departure for Artist Richard Higlett and his contraption the GPS (Gallery of Portable Sound), a car rooftop speaker system and mobile platform for Sonic Art.

O gartref dros dro yn Y Llaethdy, mae g39 yn parhau â'i rhaglen arddangosfeydd gyda Welcome To Your World, prosiect sonig gwych ac uchelgeisiol gan Richard Higlett. Fel Chitty Chitty Bang Bang diweddar, mae ei ddyfais o’r enw GPS (Gallery of Portable Sound/Oriel Sain Gludadwy) yn llwyfan symudol ar gyfer Celf Sonig – yn fuddugoliaeth o foeseg y dyfeisiwr Prydeinig

.
Mae'r GPS yn rhan o brosiect mwy Higlett, Don't Shoot The Messenger. Trwy raglen dreigl o ryngweithio mewn lleoliadau amrywiol, mae’r 'crïwr tref' diwylliannol symudol hwn yn edrych ar y defnydd o sain wrth ddatblygu dealltwriaeth o le a chyd-destun, gan ymgysylltu’n fyrhoedlog â'r bobl sy'n mynd heibio mannau dros dro fel cylchfannau traffig. Ymhlith yr ymyriadau yn y gyfres mae; ALL THESE WORLDS ARE YOURS EXCEPT… , sy'n gweld y band roc tri-darn ‘Bear-Man’ yn perfformio y tu mewn i'r cerbyd tra'n teithio i gylchfannau traffig yng Nghaerdydd yn dilyn aliniad astrolegol yr Arth Fawr. Mae'r sioe hefyd yn cynnwys gwaith gan Leona Jones y gofynnwyd iddi ysgrifennu testunau o safbwynt awdur tybiannol sy’n byw ar ynys draffig. Gwnaeth Higlett hefyd gydweithio â chath leol o’r enw 'Hapus' sy'n ymateb i gyfres o gwestiynau llafar ar y thema hela. Ar y cyfan mae'r arddangosfa yn edrych ar fywyd trefol ac amgylchedd y ddinas ochr yn ochr â themâu sy’n ymwneud â thrigolion y ddinas yn cael eu difreinio â byd natur.

Gallwch weld podlediad o gyflwyniad Richard i'r prosiect yma gan Nicolas Hughes sy’n gweithio i Warp http://www.youtube.com/watch?gl=GB&v=qr09rSbxv5Q

  • Bear Man
  • Hapus
  • Parkour Sketch

Programme