Picsel+ 2003

<b>Rachel Dobbs</b>
Rachel Dobbs

Following the success of Picsel+ in 2002, the work in Picsel+ 2003 added to the vibrant life of the city during the Cardiff Festival. Again we invited artists to submit silent works of 15 seconds.

Yn dilyn llwyddiant Picsel+ yn 2002, ychwanegodd waith Picsel+ 2003 at fywyd egnïol y ddinas yn ystod Gŵyl Caerdydd. Unwaith eto, rhoddom wahoddiad i artistiaid gyflwyno ffilmiau mud pymtheg eiliad yr un.


Mae'r sgrin ar Heol y Frenhines fel arfer yn dangos deunydd hysbysebu gan fusnesau a Chyngor y Ddinas. Bob deng munud, am bymtheg eiliad, roedd y llif hwn yn cael ei dorri ar draws gan un o artistiaid 'Picsel+'. Weithiau, bydd perygl i'r fideos technegol isel gael eu boddi gan hysbysebion slic sy'n mynnu eich sylw. Ond mae gwaith 'Picsel+' wedi cael ei ddewis yn benodol oherwydd yn y maes cystadleuol hwn gallant ddal eu tir eu hunain. Maent yn dal sylw cynulleidfa gyda'u harloesedd, eu chwilfrydedd neu eu hynodrwydd.

Mae 'Picsel+' yn ymyrryd yn y lleoliad cyhoeddus gyda delweddau sy'n symud heb fod ganddynt unrhyw gyfeiriadedd gwleidyddol nac unrhyw fwriad o farchnata. Maent yn gwahodd pobl sy'n cerdded heibio i fyd sydd naill ai'n cydweithio â neu'n aflonyddu rhagolygon arferol y ddinas. “Mae marwoldeb y delweddau hyn yn fyr iawn. Mae’n rhaid i bob un ohonynt amgylchynu’i hun gyda byrder ac eglurder wedyn gwneud lle ar gyfer yr un nesaf. Mae 'Picsel +' yn ymwneud â gwyleidd-dra delweddau, mae ar gyfer rhai sy'n gallu cwmpasu'r mwyaf o fewn y lleiaf. Rhaid i'r meysydd o liw ddifyrru, pryfocio, dychryn neu ddrysu, rhaid i’w bywydau fod yn ddiwastraff ac yn gryno. Mae’n llawer i'w ddisgwyl gan bob artist ac yn dipyn o beth i’w fynnu gan fformat o’r math hwn, ond credwn fod y casgliad o waith a gyflwynir yma yn cyflawni’r meini prawf hynny.' Michael Cousin, dewiswr Picsel + 2003 .

This show was selected by
  • David Cushway
    • <b>Matthew Pell</b>
    • <b>Eduardo Carnicero</b>
    • <b>Christopher Brown</b>
    • <b>David Massey</b>
    • <b>Rachel Dobbs</b>
    • <b>Toni Latour</b>

    Programme