Just Between Us

preview 28 May 2016

Mae’n rhyfedd sut mae pethau’n dechrau.

Haf diwethaf, yn Fenis, cefais i sgwrs, ynglŷn â gwahodd pobl i gael te efo fi yn y Sblot. Yn sgil y sgwrs honno, y Gwanwyn hwn, rwy’n gweithio ar brosiect sy’n creu cysylltiadau rhwng g39 a Chanolfan y Drindod. Siarad, cysylltu, hel syniadau, creu cysylltiadau.

Ar ddechrau’r prosiect roedd cryn dipyn o syniadau da gennym ni. Syniadau am beth i wneud a sut i fynd ati. Syniadau am le i fynd a sut i edrych ar bethau.

Ar y cyfan, ni ddigwyddodd y syniadau hyn. Roedden nhw’n syniadau da, ac maent yn parhau i fod yn dda, ond roedden nhw’n syniadau rhy derfynol, rhy ddatblygedig.

Ers hynny, rwyf wedi cymryd cam yn ôl. Rwyf wedi edrych tu hwnt i’r syniadau cynnar o Fenis, ac
wedi gweithio allan sut i greu cysylltiadau rhwng dau sefydliad a sut i alluogi’r syniadau i ddwyn ffrwyth.

Mewn ffordd nid arddangosfa yw ‘Just Between Us’. Bu rhaid rhoi syniadau gwreiddiol yr arddangosfa i’r naill ochr am y tro, fel y bu rhaid rhoi syniadau’r prosiect i’r naill ochr. Yn hytrach, beth welwch chi yng Ngofod Uned, yw ymgais i gadw cofnod o’r broses hyd yma. Y broses o gymryd cam yn ôl, y broses o fethiant creadigol.

Felly nid arddangosfa mohono, ond yn hytrach cyfle i ystyried ar ddechrau proses. Rydw i wedi treulio amser yng Nghanolfan y Drindod. Rydw i wedi galw mewn yn y sesiynau ‘drop-in’ ac wedi mynychu’r dosbarthiadau Saesneg. Rydw i wedi gwylio pobl yn chwarae tenis bwrdd, ac wedi yfed paneidiau o de. Rydw i wedi ceisio arsylwi sut mae pobl yn gwneud defnydd o’r lle, a beth maen nhw’n ei gael yn ôl. Yn bennaf oll, rydw i wedi gwenu a chael gwên yn ôl, wedi ysgwyd llaw ac wedi sgwrsio.

Un peth sydd wir wedi dal fy sylw yng Nghanolfan y Drindod ydy’r pêl-droed bwrdd. Mae ganddo dau dim o ddynion plastig - coch a glas - ac mae’r gemau’n tueddu i ddechrau gyda dynion (hyd y gwela’ i) o wahanol wledydd, megis Iran ac Eritrea, yn wynebu ei gilydd ar draws y bwrdd. Be’ sy’n fy nharo i bob tro yw’r ffaith nad yw lliw yn cyd-fynd â chenedligrwydd na thîm hyd yn oed. Yn aml mae 3 neu 4 chwaraewr ar y ddwy ochr, a 2 neu 3 o bobl ar naill ben y bwrdd yn aros eu tro. Fel y gwela’ i, yr hyn sy’n tueddu i ddigwydd, pan fydd un gêm yn gorffen a bod diwedd i’r nifer cytunedig o gemau, yw bod pawb yn symud o gwmpas y bwrdd unwaith. Felly, er efallai ar ddechrau’r gêm bod dynion o’r un wlad ar yr un tîm, wrth i bawb symud unwaith, cyn hwyr na hwyrach, mae dynion o wahanol wledydd yn chwarae ar yr un tîm.

Mae hyn yn golygu bod gêm, sydd yn y bôn yn beth cystadleuol ac yn dibynnu ar wrthwynebiad rhwng timau, yn cymysgu pob dim - yn dadwneud y syniadau sydd yng nghlwm âgwahaniaeth: Dechreuais i bant yn chwarae gyda phobl o’r un wlad a fi, yn erbyn pobl o dy wlad di. Erbyn hyn rwy’n chware gyda thi, yn erbyn pobl o’n gwledydd ill dau. Dechreuais i chwarae gydag un lliw, nawr rwy’n chwarae gyda lliw arall. Dechreuais i ar yr ochr yna, nawr rwyf ar yr ochr hon.

Tomos Williams, 2016

Mae’r broses yn parhau. Tra bydd y gwaith yn cael ei arddangos yng Ngofod Uned, bydd digwyddiadau yn y gofod, a bydd ymdrech i ddatblygu, ehangu a chryfhau’r berthynas, ymhell ar o^l y 25ain o Fehefin.

    Programme