Unit#1 Ben Lloyd: The Road To New York

preview 10 April 2015

Ffordd drol fwdlyd sy’n arwain at bentref anghyfannedd Maes-y-mynydd neu Pennsylvania ger Tyddewi, Sir Benfro, yw The Road to New York. Mae cefn gwlad braf a moroedd gwyllt yn gefnlen i’r pentrefan hwn o bedwar neu pum bwthyn sy’n wag ers dechrau’r ugeinfed ganrif. Dyma’r llwybr a droediodd y Crynwyr wrth gychwyn eu taith i’r Baradwys Bell, yn y nod o ffeindio cymdeithas gyfartal, yn rhydd rhag tlodi ac erledigaeth.
Heddiw, mae’r ardal arfordirol hon ym mhen pella’r De-orllewin yn hafan ddilychwyn sy’n frith o olion ddoe. Mae hefyd yn denu pobl y ddinas i hamddena yn yr awyr iach a dianc i fywyd symlach â’u traed ar y ddaear. Daw’r twristiaid modern yn un rhibidirês gyda’u môr o blastig, er mwyn profi’r bywyd gwyllt, go iawn.
Mae’r creiriau a adawyd ar ôl gan Grynwyr Pennsylvania, a’r holl ymwelwyr sy’n dod i’r ardal am noddfa heddiw, yn arwydd o’r ysfa gyffredin i chwilio am fan gwyn man draw. Bu Ben wrthi’n ddyfal yn hel broc môr plastig am ddwy flynedd, a chasglodd ddigon o danwyr sigaréts i adeiladu ei gaiac hededog ei hun mewn ymateb i batrymau mudol y bobl hyn.
Bydd gwaith ymchwil helaeth Ben ar gyfer yr arddangosfa hon yn cael ei ddatblygu a’i ddangos yn ystod ei gyfnod fel artist preswyl yn Oriel y Parc, Tyddewi, rhwng 10 Awst ac 17 Medi 2015. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru’n cefnogi’r prosiect hwn.

    Bu’r artistiaid canlynol yn rhan o arddangosfa:
  • Ben Lloyd

Programme