Comfy

Ar gyfer ei arddangosfa olaf eleni mae g39 yn cyflwyno Comfy, arddangosfa hawdd sy'n edrych o gil y llygaid ar hobïau a phethau rydym yn eu gwneud yn ystod ein hamser hamdden. Mae'r oriel wedi dod yn fan ar gyfer optio allan o'r stryd brysur am gyfnod, yn ymateb i wallgofrwydd tymor y Nadolig. Gan gynnal sawl digwyddiad a phroffilio gwaith Chris Evans a Tim Freeman, mae'r arddangosfa'n cofleidio newydd-deb ac arloesedd ym maes celf. Mae 'Comfy' yn fan i ymlacio, 'chilio' allan a dianc rhag gwrthlyd ysgwydd wrth ysgwydd siopwyr y Nadolig.


Ar y llawr gwaelod, mae diptychau Tim Freeman yn cyfosod ffotograffau o ofodau gwahanol, gwrthrychau a graddfeydd. Mae'n creu darluniadau chwerthinllyd neu ddoniol o dirweddau cyfoes drwy gyfuno gofodau real a ffug. Mae model o dŷ bach glan môr ar lechwedd aneglur gyda'r cyfnos; mae'r haul yn machlud ar dirwedd wledig pan fydd bws chwarae'n teithio drwodd i ben ei daith. Yn ein hatgoffa o fyd wedi'i ddyfeisio gan blentyn, rhoddir mwy o letchwithdod neu wamalrwydd i'r gofod 'dychmygol' wrth ochr y dirwedd real.

Mae ardal adnoddau ar y llawr gwaelod lle y gall ymwelwyr edrych drwy wybodaeth gan artistiaid gan gynnwys y Book of Patience gan Tomoko Takahashi ac Ella Gibbs.

Mae Chris Evans yn parhau â thema hamdden ar y llawr cyntaf gyda Pong, y gêm arcêd a gychwynnodd y chwyldro gemau fideo. Cafodd ei chyflenwi'n wreiddiol gyda'r cyfarwyddyd syml 'osgowch fethu'r bêl er mwyn cael sgôr uwch', caiff gwylwyr wahoddiad i fwynhau gêm o'r gêm gyfrifiadurol glasurol hon o'r 70au. Caiff y chwarae ei throsglwyddo drwy'r adeilad, a chaiff uchafbwyntiau'r dydd eu taflunio ar bafin Lôn y Felin gyda'r nos er mwyn cynnwys gloddestwyr y Nadolig wrth iddynt fynd heibio'r oriel. O'i chymharu â gemau cyfoes, mae Pong yn iachusol o syml. Mae unrhyw un sydd wedi dod i gysylltiad â hi'n ei hadnabod ar unwaith. I'r rhai nad ydynt, mae'r cysyniad y tu ôl i'r gêm yn hynod o glir. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn hollol ymwybodol o reolau'r gêm o fewn eiliadau i godi'r rheolyddion.

Fel rhan o arddangosfa 'Comfy', mae'r llawr uchaf wedi'i neilltuo i amserlen digwyddiadau lle mae artistiaid yn cyfrannu eu hobïau eu hunain fel rhan o'u hymarfer celfyddyd i ymwelwyr yr oriel. Mae'r digwyddiadau dyddiol yn amrywio bob dydd, mae rhai'n digwydd yn wythnosol, eraill unwaith yn unig. Yn benodol, mae Bristol Art Library, gan y prif lyfrgellydd Annabel Other, yn gofyn i ymwelwyr ddod yn aelodau cyn benthyg llyfr artist o'r casgliad am ddeng munud. Hoffai g39 ddiolch i Ella Gibbs am drefnu'r digwyddiadau.

Darluniau gan Toril Brancher fel rhan o gomisiwn Darlunio Caerdydd.

Programme