Vehicle

CONTEMPORARY TEMPORARY ARTSPACE

datganiad i’r wasg g39 Lon y Felin Caerdydd CF10 1FH

veHiClE CErbYD

Ebrill 7fed tan Fai 5ed 2001


Mae Cerbyd yn waith newydd ar y cyd gan yr artistiaid Simon Aeppli a David Collins. Hysbysir eu harferion gweithio gan sinema a pherfformio, cyfeirio prosesau archwiliadol megis gwyliadwriaeth, datgeliad a phrofi forensig. Ar gyfer yr arddangosfa hon sy’n para mis, byddant yn tynnu ar Ddinas Caerdydd er mwyn cyfeirio’r gwaith, gan weithio o’r oriel a cherbyd modur bedair-awr-ar- hugain y dydd.

Cyn y siwrneiau yma, archwilir a dadansoddir y cerbyd cyn ei waredu i ffwrdd ar y diwedd, gan ddarparu gwagle newydd lle mae Cerbyd yn dechrau digwydd:
Mae’r dull systematig yma o fwrw ati yn ein galluogi ni i ddadgodio amgylchedd y car a chael dealltwriaeth o’r lle ffisegol a’i hanes agos.

Bydd Cerbyd yn newid yn gyflym gyda’r artistiaid a’u malurion yn mynd a dod o’r oriel. Mewn proses noeth a dadlennol, bydd Aeppli a Collins yn defnyddio’r cerbyd i dreillio’r Ddinas, gan grafu’r wyneb i ffwrdd a gweld beth sydd oddi tano:
Byddwn yn ymweld â safleoedd anghyfannedd – parthau marw. Mae’r rhannau yma o’r ddinas yn aml yn bodoli, yn debyg iawn i’r bobl a atynnir iddynt, ar yr ymylon. Mae Cymdeithas naill wedi cymryd eu hadnabyddiaeth oddi arnynt neu wedi cefnu arnynt.

Mae Cerbyd yn datgelu fod cyffredinedd beunyddiol y Ddinas llawer yn fwy cythryblus, anfad a pharanoiaidd. Gadewir y gwyliwr gyda’r teimlad anesmwyth fod y foment hon ond yn gynrychiolaeth o naratif mwy astrus.

Dogfennir eu siwrneiau allan o ganol Caerdydd (g39) i ymylon y ddinas ar fideo fel ffilm gwyliadwriaeth. Mae’r oriel yn dod yn bwynt croesffordd ar gyfer y cyrchau yma, yn lle i’w ddangos ynghyd â’i guddio. Bydd g39 yn gweithredu fel canolfan, lle byw, canolfan gweithredu er mwyn dadansoddi tâp gwyliadwriaeth ddogfennol a storio tystiolaeth.

Programme