Matinee

<b>Harriet Clarke</b>, <i>Photographs from Peter`s Workshop</i>, 2000.
Harriet Clarke, Photographs from Peter`s Workshop, 2000.

Ar ôl bron i flwyddyn yn y tywyllwch, mae g39 yn ail agor ei drysau gydag arddangosfa newydd 'Matinée'. Mae hon yn marcio ail-lansio'r oriel yn ei heiddo estynedig yn Lôn y Felin, gyda llawr gwaelod newydd fflam ac arddangosfeydd min yr awch a fydd yn proffilio artistiaid gweledol proffesiynol o Gymru a thramor. Mae'r lleoliad sydd wedi ei arianni gan y Loteri yn cychwyn ei rhaglen digwyddiadau gydag arddangosfa o bedwar arlunydd sydd wedi eu sefydlu yng Nghymru sy'n dilyn manion ymddygiad obsesiynol a gweithdrefn drefnus a chwaraeir allan mewn amgylcheddau personol a chyhoeddus.

Peter Bobby

Yn y gwaith hwn, yr wyf wedi dechrau edrych ar leoedd sydd 'wedi eu cwblhau', felly yn breswyliedig neu yn addas ar gyfer byw ynddynt. Mae diben y lle yn amlwg oherwydd ychwanegu addurnwaith y tu fewn, gan gynnwys goleuo, dodrefn a nodweddion pensaerniol. Fodd bynnag, mae diffyg y presenoldeb dynol yn dal yn bodoli, a hynny yn beth pwysig oddi mewn i'r delweddau hyn. Mae'r absenoldeb dynol hyn yn peri i ddyn ailffocysu sylw ar yr amgylchedd a adeiledir, yn gymdeithasol, yn boliticaidd ac yn bensaernïol. Mae cwestiynu yr amgylcheddau hyn trwy eu dylunwaith yn arwain ni i ystyried yr effeithiau cadarnhaol a negyddol ar yr unigolyn. Yn anochel, maehyn yn codi materion yn ymwneud â phwer, dosbarth, lle ac ymddygiad cymdeithasol, ac enwi ond ychydig.

Y mae diddordeb yn yr hyn sydd ohoni, y dulliau yr arddangosir pwer a thybied ail-ennill trefn. O ganlyniad, fy ffocws i yw'r ddinas, nid miri'r stryd fawr, ond yr adeiladau a'r lleoedd y mae pobl yn eu meddiannu er mwyn dianc o'r anrhefn hyn. Mae mynegi neu gynrychioli trefn yn gwneud i bobl deimlo'n gysurus. Cysur = Pwer, eu pwer, wrth ei waith. Yn ddiddorol, mae hyn yn arwain at gwestiynau o symbyliad gweledol, rhithganfyddiad a llithiad.

Maura Hazelden

The domestic order of memory
The memory of domestic order
The order of domestic memory


Mae ymwybyddiaeth ddynola bydysawd angymesurol yn gwneud i amser ymddangos ei fod yn pasio. pa mor gywir yw ein cof? Faint a ddyfeisir? Ydyn ni'n sylwi pan y bo'n cof yn cofio o brofiad a ddyfeisiwyd? Cof diffygiol yw nostalgia; cof a ddychmygwys o fywyd fel ein cyndeidiau, o amser yr ydym wedi ein geni i mewn iddo ond nid ydym yn cael profiad ohono. Nid yw'r cof fel bebreuddwydion i gael ei binio i lawr, ond mae'n rhaid gadael iddo grwydro er mwyn iddo weithio, ni all fod unrhyw afael a dal.
Mae'r broses gwybyddol o gategoreiddio yn creu trefn a diffiniad. Cwpanau a soseri am de 4.00pm, bwrdd wedi ei gosod yn briodol, lle o bopeth a phopeth yn ei le. Trefn blodau manwl gywir; yr oedd ei sanau bob amser yn dod i fyny i'w phenliniau; ni ddylai cwpanau a soseri fyth cael eu stacio; roedd ei llawysgrifen mor daclus; dylai coleri a chyffiau gwyn a golau gael eu plygu mewn papur tisw gwyn; pam na allwch chi fod yn debycach i Jennifer? Cadwch y ty yn lân a thaclustan nad oes unrhyw le i gnawdolrwydd, mae'r awydd wedi ei ddargyfeirio y tu hwnt i hunan-sychdarthiad. Ond mae e'n dal yno.

Ruth Pelopida

Mae One Night Stay yn un o gyfres o weithiau ymyrrid. Yn ystod arhosiadau un-noson mewn Gwestai yng Nghaerdydd, mi wnes i frodio llieiniau'r gwely â fy enw a'm blaenlythrnnau. Wedi i mi fynd, gellid golchi'r llieiniau ac ailwneud y gwely er mwyn i westeion eraill gysgu ynddo. Fy mwriad i yw gwrthdroi'r cylched o ddosbarthu a defnydd y llieiniau a newid adnabyddiaeth gwrthrych sydd fel arfer yn ddi-enw ac ymateb y defnyddydd iddo.
Yn hwn a gwaith cyfredol arall, yr wyf wedi bod yn ystyried tystiolaeth o bobl a adawyd gan eraill mewn lleoedd cyhoeddus. Er enghraifft, y modd y mae graffiti yn gwrthdroi iaith ffurfiol ac yn tanseilio niwtraliaeth lleoedd ac eiddo cyhoeddus gyda negeseuon personol a sut mae'r gweddill bwriadol hyn yn cymharu o ran statws, dygnwch ac effaith i'r cofebau a gomisiynwyd i gofnodi ein profiad casgliadol.
Yn Trophoes' yr wyf yn trosglwyddo testun y daethpwyd o hyd iddo ar droffïau chwaraeon (modd cydnabyddedig o gydnabod pobl a digwyddiadau arwyddocaol). Trwy ddisodli'r graffiti yr wyf yn synhwyro awydd yr unigolyn i adael eu marc ac wrth wneud hyn, creu gwrthrych celfyddyd i'w weld a'i ddogfennu mewn ymdrech i adael fy ôl.

  • <b>Harriet Clarke</b>, <i>Photographs from Peter`s Workshop</i>, 2000.
  • <b>Harriet Clarke</b>, <i>Photographs from Peter`s Workshop</i>, 2000.
  • <b>Harriet Clarke</b>, <i>Photographs from Peter`s Workshop</i>, 2000.
  • <b>Ruth Pelopida</b>, <i>One Night Stay</i>, video installation, 2000.
  • <b>Ruth Pelopida</b>, <i>Trophies</i>, 1999-2000.
  • <b>Peter Bobby</b>, <i>Untitled</i>, photograph, 2000.
  • <b>Peter Bobby</b>, <i>Untitled</i>, photograph, 2000.
  • <b>Peter Bobby</b>, <i>Untitled</i>, photograph, 2000.

Programme