For Sale: Baby Shoes, Never Worn

preview 7 August 2009

G39 continues its distinctive presentation of new work with For Sale: Baby Shoes, Never Worn, a group exhibition arranged around the theme of fragmented narrative.

This short story by Ernest Hemingway was written in response to a bar bet that he couldn’t write a complete piece of fiction in six words or less. Hemingway is said to have considered it his best work. This micro-narrative plays over and over again in the mind of the reader with possible interpretations. The story is based on what is left unsaid. The artists all deal with micro-narratives in a variety of forms. There is a minimal use of materials and content that hint at much larger themes. Like Hemingway’s text, the showcased artists deal with what is left unsaid, but there is a reality within these narratives that explores failure, randomness and the nonsensical.

Mae G39 yn parhau â'i chyflwyniad nodedig o waith newydd gyda For Sale: Baby Shoes, Never Worn, sef arddangosfa grŵp a drefnwyd o amgylch y thema o naratif tameidiog.

Ysgrifennwyd y stori fer hon gan Ernest Hemingway mewn ymateb i bet a gafwyd mewn bar na allai ysgrifennu darn cyfan o ffuglen mewn chwe gair neu lai. Honnir bod Hemingway o'r farn mai dyma'i ddarn gorau o waith. Mae'r micro-naratif hwn yn chwarae drosodd a throsodd ym meddwl y darllenydd, gyda dehongliadau posibl. Mae'r stori'n seiliedig ar yr hyn nas dywedir. Mae'r artistiaid i gyd yn delio â meicro-naratif mewn amrywiaeth o ffurfiau. Prin yw'r defnydd a wneir o ddeunyddiau a chynnwys sy'n cyfeirio at themâu mwy o faint. Fel testun Hemingway, mae'r artistiaid sy'n rhan o'r arddangosfa yn delio â'r hyn nas dywedir, ond ceir realiti o fewn y naratifau hyn sy'n archwilio methiant, natur pethau ar hap a'r disynnwyr.


Drwy ei ffilmiau epig byr, gosodiadau fideo, cerfluniau a llyfrau, mae Alex Pearl yn creu synnwyr o dderbyn methiant neu siom fel rhannau pwysig o gyflwr dyn. Mae ei gerflun yn fregus, dros dro, ac mae'n ymddangos fel pe bai ar fin disgyn, neu fel pe bai wedi torri eisoes. Mae'r gwaith yn dangos natur chwareus gyda'i gyfyngiadau ei hun ac awydd anobeithiol am fawredd. Mae Sarah Chilvers fel arfer yn cynhyrchu fideos, paentiadau a darluniau, ac mae'n casglu ac yn arddangos darnau o lawysgrifen y mae wedi'u canfod. Yn mae Sarah yn cynhyrchu llyfr byr wedi'i gynllunio o gasgliad o lawysgrifen a lungopïwyd, a ganfuwyd ac a gasglwyd dros gyfnod o ddeng mlynedd. Mae'r efeilliaid Akiko a Masako Takada yn cydweithio â cherflunwyr, gosodiadau a fideos, gan archwilio'r berthynas rhwng ein bodolaeth a'r gofod sydd o'n hamgylch, gan greu mân dirluniau o fewn eitemau cyffredin y mae eu graddfeydd yn adnabyddadwy yn ein profiad beunyddiol, tra'n cadw maint y gwrthrychau bob dydd. Mae Rebecca Lennon yn cyfuno fideo, perfformiad, sain a gosodiadau mewn proses barhaus o montage, ail-lunio, dadleoli, ymyrryd ac ailddehongli. Gan ddelio'n bennaf â'r broses o chwilio am ystyr a chydamseredd drwy ffyrdd (ymddangosiadol) afresymol neu afresymegol, mae Lennon yn defnyddio deunydd sydd ar gael bob dydd i greu montage ac adeiladweithiau defodol.

Dylai stori fer gynnwys pum elfen bwysig: cymeriadau, lleoliad, plot, gwrthdaro a thema, a chaiff yr holl elfennau hyn eu cynrychioli yn nhestun Hemingway. Yn achos yr artistiaid yn y sioe hon, mae'r elfennau wedi datgymalu wrth ei gilydd, mae rhai wedi cael eu colli neu eu cuddio ac fe'n gadewir i ddehonglil'r hyn sy'n weddill.

This show was curated by
  • Michael Cousin
  • pdf iconReview by Darryl Corner
    • Akiko & Masako Takada, `Crop circle`.
    • Akiko & Masako Takada, still from `Rainstorm`, video.
    • Akiko & Masako Takada, `Railings`.
    • Rebecca Lennon, `Offering For Tesco (Where Wings Take Dream)` (2009), documentation from the performative series of ‘Offerings’ (in progress).
    • Rebecca Lennon, `Sea sicknes on dry land` (2008), horn Tannoy speaker, CCTV monitor, DVD audio recordings and animated text.
    • Rebecca Lennon, `Dead on arrival` (2009).
    • Alex Pearl, stills from Little Death

    Programme