Jon Fawcett, from Wheel (Items), 2007. Carbon fibre, 2K paint, cast aluminium, aluminium tripod, aluminium and steel machine parts, neoprene, cotton gloves, aluminium flight case, foam, transit
The plot of any narrative is subject to the author who controls its twists and turns. Conversely, life rolls on at the mercy of chance meetings and unpredictable events. Is the idea that these are fated or pre-ordained merely a comforting illusion? Could anything happen?
Mae plot unrhyw naratif yn dibynnu ar yr awdur sy’n rheoli'i droadau. Ond i’r gwrthwyneb, mae bywyd yn symud yn ei flaen yn dibynnu ar drugaredd cyfarfodydd ar hap a digwyddiadau anrhagweladwy. Ai lledrith cysurus yw’r syniad bod y rhain yn anochel neu wedi'u rhagordeinio? A allai unrhyw beth ddigwydd?
Gwn Chekhov yw enw ystryw naratif ffilmig. Mae’n sefyll am unrhyw beth sydd ar yr olwg gyntaf yn ddibwys ond y darganfyddir wedyn fod ganddo bwrpas pendant. Mae ei gynnwys yn hollol resymegol. Ar y llaw arall, mae MacGuffin yn rhywbeth yr ymddengys ei fod yn bwysig ond y darganfyddir yn ddiweddarach nad yw o bwys o gwbl: codi sgwarnogod. Ei swyddogaeth go iawn yw’r ymateb y mae’n ei ysgogi a’r symbyliad y mae’n ei ddarparu i’r cymeriadau sy’n dod i gysylltiad ag ef.
Gan ddefnyddio troadau yn y plot, llithiau a gwrthdyniadau mae’r chwe artist yn codi archwaeth disgwyliadau’r gynulleidfa. Darganfyddir bod gwrthrychau pwysig yn dda i ddim, dangosir bod gweithrediadau'n ddibwys a datgelir y llinell derfyn rhwng gwaith gorffenedig a'i adeiladwaith cefn llwyfan. Mae’n rhaid bod i bob ‘prop’ neu naratif un pwrpas terfynol ond ar yr un pryd mae'n dal yr addewid o liaws o ddeilliannau.