Jackie Chettur: 310

preview 27 March 2009

Jackie Chettur, Untitled (from `310` series), photograph, 2009.
Jackie Chettur, Untitled (from `310` series), photograph, 2009.

G39 presents a body of new work by prolific British artist Jackie Chettur, the third artist in our solo season which showcases the work of emerging artists from Wales. Chettur's luxurious large-format photographs offer a meticulously crafted escapism from the mundanety of everyday living, depicted by banal hotel room interiors that have been dressed with exquisite handmade floral arrangements and backdrops.

Mae g39 yn cyflwyno corff o waith newydd gan Jackie Chettur, sef y trydydd artist yn ein tymor o unigolion sy’n dangos gwaith artistiaid sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru. Mae ffotograffau moethus Chettur, sydd ar raddfa fawr, yn cynnig dihangfa gelfydd o fywyd cyffredin bob dydd, wedi’i ddangos gan y tu mewn i ystafelloedd diflas gwestai sydd wedi cael eu gwisgo gyda threfniadau blodau a chefndiroedd blodeuog, cain, a wnaed â llaw.


Er bod Jackie yn aml yn gweithio drwy ymateb i safleoedd penodol, mae 310 ychydig bach yn wahanol: daeth y syniad ar gyfer y gwaith pan roedd yn gweithio mewn gwesty. Mae’r gwesty’n un ddinesig, glasurol, cadwyn ryngwladol gorfforaethol gydag ystafelloedd modiwlaidd, sy’n cynnig moethusrwydd a steil, gyda ‘manylion personol’ i wneud i’r teithiwr deimlo’i fod yn cael ei faldodi. Mae Chettur yn creu ymyriad personol gwirioneddol yn yr ystafell benodol hon, gan greu ategion â llaw a’u gosod yn yr amgylchedd unffurf hwn. Daw’r ystafell yn set ffilmio wrth iddi wneud yr ymyriadau ‘Technicolor’ hyn o flaen y camera.

O blith y chwe delwedd hyn, mae rhai ohonynt yn ddogfennau gwrthrychol, tra bod rhai o’r lleill yn ganlyniad i’w ymyriadau dihangol. Maent yn ddwys, yn goeth ac yn afreal - gan daro cydbwysedd main iawn rhwng cyfoeth a chyfog. O bryd i’w gilydd, caiff yr ategion hyn eu datgelu fel rhith - blodyn sydd yn amlwg wedi’i wneud o bapur, gyda’r coesyn sidan crych yn gollwng y gath o’r cwd - ac rydym i gyd yn cael ein herio i gadw ymdeimlad o hunan-dwyll. A allwn barhau i gredu bod yr olygfa’n ymestyn y tu hwnt i ymylon y ddelwedd ac yn agor i’r realiti amryliw dealledig y tu hwnt? Neu a yw’n ddigon dychmygu gwaith caled yr artist, yn plygu, yn pinio ac yn gwnïo’i ffordd allan o’r amgylchedd diflas y mae ei chael ei hun ynddo?

Yn flaenorol, cyfeiriodd Chettur at ddisgrifiad Salman Rushdie o The Wizard of Oz: ‘Yn yr ennyd mwyaf nerthol o emosiynol, mae’r ffilm hon yn ddiamau yn ymwneud â’r pleser o fynd ymaith, gadael y mannau llwyd a chael mynediad i fyd o liw, creu bywyd newydd mewn man lle nad oes trafferthion.’ Ym myd Chettur, mae’r ddau gyflwr wedi’u cysylltu’n agosach o lawer; mae’r ddau gyflwr mewn lliw, yr ymyriad sy’n eu gosod ar wahân. Mae Chettur yn cyfuno’r ddau, argaen y presennol a’r cyfnod dychmygol delfrydol lle y gall cred wneud i bethau ddigwydd. Fel Dorothy, nid ydym yn gwybod p’un ai breuddwyd yw’r hyn a ddigwyddodd ai peidio, ond roedd y byd gwych a grëwyd yn parhau i fod yn fan o ofn, tor calon, twyll ac ymwahanu. Hyd yn oed yn ein breuddwydion, rydym ynghlwm â’r hyn y’n gwnaed allan ohono.

Dymuna Jackie Chettur ddiolch i Benjamin Miller, Alison Harris, Matthew Richardson a gwesty’r Marriott Hotel am eu cydweithrediad wrth ddod â’r gwaith hwn i fodolaeth.

pdf iconRoom 310: a response by Anders Pleass
  • Jackie Chettur, Untitled (from `310` series), photograph, 2009.
  • Jackie Chettur, Untitled (from `310` series), photograph, 2009.
  • Jackie Chettur, Untitled (from `310` series), photograph, 2009.
  • Jackie Chettur, Untitled (from `310` series), photograph, 2009.
  • Jackie Chettur, Untitled (from `310` series), photograph, 2009.
  • Jackie Chettur, Untitled (from `310` series), photograph, 2009.

Programme