Will Sheridan Jr

b. 1988, Brussels
Byw a gweithio London

<i>Dear-World: From Me</i> 2017
Dear-World: From Me 2017

Mae Will Sheridan Jr yn gweithio gyda chollage, darlunio a cherflunwaith i ystumio a gorliwio'r ffigyrau rhyweddol a rhywioledig o fewn diwylliant poblogaidd.



Wedi'u dylanwadu gan ddelweddau hysbysebion a byrddau poster, mae'r bobl yn ei ddelweddau yn ymddangos yn gyffredin, diflas ac afradlon ac ar y ffin tuag at orbryder, tristwch a dicter. Yn ailadroddus a chyfryngol, mae'r gweithiau hefyd yn troi yn ôl tuag at atgynhyrchu'r systemau cynrychioliadol y maent yn tynnu oddi arnynt, gan atodi'r lluniau a gasglwyd i'r teimladau o orbryder, ofn, methiant a siom. Yn aml, prin y mae ei weithiau'n dangos emosiwn, gan ymddangos fel pe baent yn anhyblyg, gyda ffocws ar ddillad fel y man cynrychioli.

Mae'r arddangosfeydd yn cynnwys: To Die For, Castiglioni Fine Arts, Milan, Yr Eidal (2018); Take the Weight, SixtyEight Art Institute, Copenhagen, Denmarc (2018); Condo, Emalin, Llundain (2017); Double Acts, Marcelle Joseph Projects, Ascott (2016); Sad Sweat Kronenbourg, Schulden Programme, Llundain (2015); Schulden Programme at Bold Tendencies, Llundain (2015); True Players W139, Amsterdam, Yr Iseldiroedd (2015); Bloomberg New Contemporaries, Newlyn Art Gallery, Cernyw, ICA, Llundain a World Museum, Lerpwl (2014-15).

Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa:
Survey

Dolenni :
willsheridanjr.com
  • <i>Dear-World: From Me</i> 2017
  • <i>Dear-World: From Me</i> 2017
  • <i>Dear-World: From Me</i> 2017