Simeon Barclay

b. 1975, Huddersfield
Byw a gweithio Leeds

<i>An Arrangement on Blue (swamp rat skank)</i>, 2015
An Arrangement on Blue (swamp rat skank), 2015

Mae gan Simeon Barclay ddiddordeb yn y ffordd rydym yn creu ac yn perfformio ein hunaniaeth. Gan dynnu oddi ar hysbysebion, cylchgronau, teledu a cherddoriaeth, mae'n cyfuno delweddau o eiliadau sy'n arwyddocaol yn ddiwylliannol â'i atgofion personol er mwyn deall sut rydym yn diffinio ac yn lleoli ein hunain o fewn y gymdeithas.



Mae Barclay yn defnyddio cyfeiriadau o ddiwylliant poblogaidd o'i gyfnod yn tyfu i fyny yng ngogledd Lloegr i archwilio rolau gwrywaidd a benywaidd a disgwyliadau'r gymdeithas. Mae delweddau o bêl-droedwyr, actoresau a gwrthrychau yn dangos sut rydym yn perfformio rhywedd. Mae Barclay wedi cyfeirio at gerddoriaeth, teledu a hysbysebion o’r blaen i dynnu sylw at eiliadau diwylliannol penodol sydd o arwyddocâd personol, ac i ystyried sut y gallai ein hunaniaethau personol gael eu diffinio a'u siapio o fewn y gymdeithas.

Mae'r arddangosfeydd yn cynnwys: Knock Knock, South London Gallery, Llundain (2018); Its Not There Till It’s There, Galerie Lisa Kandlhofer, Vienna (2018); Hero Wears Clay Shoes, Tate Britain (2017); We Are Where We Are, BALTIC 39, Gateshead (2018); Repeat (Figures and Infrastructures), SixtyEight Art Institute, Denmarc (2018). Derbyniodd Wobr Artist Cysylltiol Eilflwydd Lerpwl ac mae'n dechrau ar gyfnod fel artist preswyl gyda Choleg Girton, Caergrawnt (2018).

Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa:
Survey

Dolenni :
http://www.simeonbarclay.co.uk/
  • <i>Royal Flush</i>, 2017
  • <i>An Arrangement on Blue (swamp rat skank)</i>, 2015
  • <i>Annabel and Phoebe</i> 2017