Salik Ansari

Mae gwaith Salik Ansari yn adlewyrchu ymgais gyson i ddadadeiladu ideolegau trechol a dyfeisiadau cymdeithasol. Gan gyfuno ffurfiau gwahanol y cyfryngau, paentio, cerflunwaith, gosodiadau, a fideo mae ei waith yn cylchdroi o amgylch y syniadau am ofod a'r ffactorau niferus o'i amgylch.

Fel artist a dylunydd o India, rwyf yn wynebu lluosogrwydd a'r hyn sy'n aml iawn yn datblygu i fod yn amlddiwylliannedd ymrannol. Gan arsylwi ar yr hyn sy'n edrych fel anrhefn wallgof gan fwyaf, gall rhywun olrhain nifer o batrymau, nodi miliynau o broblemau a chael eich temtio i gynnig plethora o ddatrysiadau uwch-dechnoleg. Fodd bynnag, gall crwydro drwy'r tiriogaethau cystadleuol a chymysglyd hyn hefyd wthio rhywun tuag at eirfa sy'n cael ei hysbrydoli’n gryf gan gymhlethdod diwylliannol a sensitifrwydd cyd-destunol; i fod yn fwy ymenyddol tra eich bod hefyd yn mynd i'r afael â phroblemau cymdeithasol.

Mae pob syniad effeithiol yn gofyn am ddealltwriaeth gref o ysbryd pobl. Mewn oes lle y ceir holltau llym wrth fynd ar drywydd hunaniaeth, a allwn ni fod yn empathetig tuag at yr 'arall'? Heb gydlyniant cysylltiadau emosiynol, diwylliannol a chymdeithasol, ni all unrhyw ddull mynegiant berfformio yn y ffordd y bwriadwyd iddo wneud.

Yr hyn sydd ei angen ar rywun, efallai, yw arferion meithringar sy'n gallu gwireddu pwysigrwydd gwirioneddol meddwl casgliadol a chritigol; dull sy'n anelu tuag at ymgysylltiad dilys, mynegiant creadigol critigol sydd wedi'i ddylunio ar gyfer y meddwl.

Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa:
The Rejoinders