Fel artist gweledol, mae fy ngwaith yn amlddisgyblaethol, ac yn cynnwys gosodiadau, croglenni ffabrig ar raddfa fawr, gwisgoedd, perfformiadau a gwaith fideo sy'n canolbwyntio ar swyddogaethau hyblyg tecstilau. Mae gennyf ddiddordeb yn y modd y gall ffabrig fod yn hollbresennol a chael ei anghofio hefyd, sut y gall swyddogaeth ffabrig newid o ran y modd y caiff ei briodoleddau materol eu defnyddio, ac o ran cyd-destun y defnydd a wneir ohono.
Yn y blynyddoedd diwethaf, dw i wedi cyfeirio yn fy ngwaith at faneri, fflagiau a thapestrïau er mwyn archwilio syniadau nid yn unig am deulu, hunaniaeth a chymuned ond hefyd am y modd y gellir defnyddio ffabrig mewn modd cymdeithasol-ymwybodol. Fel artist o Gaerdydd, dw i wedi creu darnau o'r fath i ymateb i faterion a digwyddiadau allweddol yn y ddinas, fel gorymdaith Caerdydd Heb Diwylliant ym mis Chwefror 2016, 'Red Routes' Made in Spring yn 2015 a 2016 ac, yn fwy diweddar, brosiect ‘Flags of Roath’, a gwblhawyd ar ran Made in Roath yn Hydref 2016.
Fi yw Cydlynydd Gwirfoddolwyr Diffusion 2017 yn Ffotogallery, Caerdydd, a dw i'n cyflwyno rhaglen gelfyddydau a diwylliant Pitch Illustration ar Radio Caerdydd bob dydd Iau rhwng 7 ac 8pm. Yn ogystal â hynny, mae gennyf stiwdio yn Spit & Sawdust ac fe gefais gyfnod o brofiad proffesiynol gyda chynllun Warp g39.