Michal Iwanowski

b. 1977, Świebodzice, Poland
Byw a gweithio Cardiff

Mae Michal yn artist sy’n gweithio yn bennaf gyda ffotograffiaeth. Mae ei ymchwil yn ymwneud â chynrychiolaeth tirlun fel tyst i naratifau personol.

Mae ymarferiad Michal yn gorwedd ar y gyffordd rhwng ffotograffiaeth, fideo ac ysgrifen creadigol. Mae agwedd perfformiadol cerdded pellter hir yn agwedd annatod o ymchwil Iwanowski. Yn Ebrill 2018, mewn ymateb i’r neges “Go home Polish” oedd wedi ei ysgrifennu ar wal yng Nghaerdydd fe gerddodd Michal 1,200 milltir o Gymru i Wlad Pwyl. ‘Yr unig ffordd i mi ddarganfod ble oedd adre i mi oedd cerdded o ‘nghartref yng Nghaerdydd ble dw i wedi bod yn byw am 17 o flynyddoedd, i fy nghartref genedigol yng Ngwlad Pwyl, ac i ofyn i bobl ar y ffordd: Ble mae o? Ble mae adre? Be mae o’n ei feddwl os ‘dw i’n dweud ‘cer adre’?”

Yn 2009 enillodd Michal wobr ‘Ffotograffydd Addawol’ gan y sefydliad Magenta Foundation, a derbyniodd Crybwylliad Anrhydeddus yn Px3 Prix De Photographie, Paris. Mae wedi derbyn grantiau Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer ei brosiect ‘Clear of People’ a ‘Go Home, Polish’ gyda’r ddau wedi eu henwebu ar gyfer gwobr Deutsche Börse Photography Prize, yn 2017 ar gyfer ei lyfr ‘Clear of People’, ac yn 2019 am ei arddangosfa ‘Go Home, Polish’ yn Peckham24. Mae ei waith wedi cael ei arddangos a’i gyhoeddi ledled y byd, ac wedi ei feddiannu ar gyfer casgliadau parhaol gan nifer o sefydliadau, yn cynnwys Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa:
Gallery 2 // Galeri 2:
We Ran Together


Dolenni :
https://www.michaliwanowski.com